Mae barn y cyhoedd yn cael ei hanwybyddu wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i newid deddfwriaeth iaith, dyna fydd rhybudd ymgyrchwyr sy'n cwrdd â'r Gweinidog Alun Davies heddiw (dydd Iau, 2il Mawrth).
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau ymgynghori i gasglu barn am sut mae Safonau'r Gymraeg yn gweithio, ond dyw'r cyhoedd ddim yn cael mynd i'r cyfarfodydd. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi gwrthod gadael i Gymdeithas yr Iaith fynychu'r sesiynau ymgynghori.
Dywed y Llywodraeth y bydd y dystiolaeth maen nhw'n ei chasglu yn cael ei defnyddio i lunio papur gwyn am Fesur y Gymraeg a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai eleni.
Meddai Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae angen cryfhau'r gyfraith er lles pobl a'r Gymraeg, nid er lles sefydliadau. Dylai profiad y rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg fod wrth wraidd popeth mae’r Llywodraeth yn ei wneud, ond mae'n debyg mai dim ond barn cyrff sy'n cyfrif. Sut allan nhw gyfiawnhau cau'r cyhoedd allan o'r sesiynau hyn?
"Rydyn ni'n galw am hawliau clir cyffredinol i'r Gymraeg ar wyneb y ddeddf a'i estyn i gynnwys gweddill y sector breifat. Dyna'r math o newidiadau fydd yn llesol i bobl.
"Mae'r math o dystiolaeth mae'r Llywodraeth yn casglu hefyd yn dangos tuedd – mae'n debyg eu bod nhw eisiau atebion i gwestiynau sy'n anodd iawn i'r cyhoedd ymwneud â nhw. Pam nad ydyn nhw'n casglu tystiolaeth mewn ffordd sy'n wirioneddol agored i'r cyhoedd?
"Mae'n eironig bod nifer o wendidau'r Safonau yn ganlyniad i'r un tuedd gan y Llywodraeth, sef gwrando ar farn cyrff a chwmnïau'n yn hytrach na defnyddwyr a chefnogwyr yr iaith."