Ymgyrch recriwtio gofalwyr yn diystyru cynllunio’r gweithlu Cymraeg - Cymdeithas

Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder nad yw ymgyrch newydd i gyflogi ugain mil yn fwy o ofalwyr yn sôn am yr angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Gwerfyl Wyn Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith:

“Mae cynllunio’r gweithlu’n iawn yn gwbl greiddiol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Fodd bynnag, nid oes sylw ar safle we’r ymgyrch at yr angen i gynyddu’r nifer o weithwyr gofal sy’n siarad Cymraeg. Mae’n siom. Wedi’r cwbl, mae’r gweithlu gofal yn gwasanaethu pobl ar eu mwyaf bregus - o blant bach sy’n uniaith Gymraeg i bobl hŷn sy’n colli’r gallu i siarad Saesneg. Dylai’r angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg fod yn ganolog i’r ymgyrch hon. Mae’r ymgyrch felly yn colli cyfle i wella darpariaeth Gymraeg yn y gwasanaethau allweddol hyn.”