Ymgyrchwyr yn targedu swyddfa Ceidwadwyr Caerdydd dros S4C

gweithred-caerdydd-jon.jpgMae dau o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi torri mewn i swyddfeydd yr Aelodau Seneddol a Cheidwadol lleol yng Nghaerdydd, heddiw (Dydd Sul 06/03/11) a pheintio slogan yn galw am sicrhau dyfodol S4C wrth i gynhadledd y blaid fynd yn ei blaen yn y brifddinas. Mae Heledd Melangell Williams (o Nant Peris) a Jamie Bevan (O Ferthyr) bellach yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu, Bae Caerdydd. Fe gysylltodd y gweithredwyr gyda'r heddlu i'w hysbysu am y weithred di-drais, ac mae'r ddau yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros y weithred.Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith sy'n gwrthwynebu'r ffaith bod Llywodraeth a'r BBC yn cydweithio ar gynllwyn a fyddai'n cael gwared ar S4C. Mae'r weithred yn dilyn cyfnod hir o ymgyrchu a lobio gan Gymdeithas yr Iaith gan gynnwys Rali fawr yng Nghaerdydd gyda dros 2,000 yn mynychu cyn y Nadolig, degau o gyfarfodydd wedi eu trefnu ar hyd a lled Cymru, miloedd ar filoedd o enwau wedi eu casglu ar ddeiseb yn gwrthwynebu Toriadau S4C, a llythyrau di-ri wedi eu hanfon at Aelodau Seneddol Cymreig yn eu hannog i sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu galwad gan arweinydd pob plaid yng Nghymru i'r Llywodraeth atal y cynlluniau presennol ar gyfer S4C, a fyddai'n rhoi S4C dan y BBC ac yn torri dros 40% o'i chyllid.""Nid yw Llywodraeth Prydain wedi ystyried barn pobl Gymru yn eu cynlluniau ar gyfer S4C o gwbl yn y broses hon sydd yn hollol sarhaus. Rydym am bwyso ar Lywodraeth Prydain i wrando ar alwad ein pleidiau gwleidyddol er mwyn gallu gwneud penderfyniad synhwyrol ar ddyfodol y sianel.""Sefydlwyd y sianel yn dilyn brwydr hir gan bobl Cymru a nawr mae'r Llywodraeth glymblaid a'r BBC yn tanseilio hyn oll. Nid yn unig hynny ond maent yn anwybyddu pobl Cymru."Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni y byddai S4C yn colli'i hannibyniaeth dan y cynllun presennol ac na fydd yn ddim mwy nag adran arall o'r BBC.Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae'r weithred heddiw yn dangos difrifoldeb y sefyllfa a'r awydd sydd gan bobl i frwydro yn erbyn bygythiadau i'n sianel Gymraeg. Mae'n hymgyrch yn mynd o nerth i nerth a byddwn yn parhau nes i ni gael sicrwydd o annibyniaeth S4C a chyllid digonol mewn statud i alluogi hynny."