O'i huned (rhif 401 - 402) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn arwain yr ymgyrch dros Gymunedau Cymraeg Cynaliadwy.Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr Eisteddfod eleni yn agos iawn at Lyn Tryweryn. Boddi Cwm Celyn yn y chwedegau achosodd i'r Cymry sylweddoli o ddifrif pa mor ddiamddiffyn a bregus oedd eu cymunedau, ac mor fawr y perygl a wynebai'r iaith Gymraeg. Er bod llawer i frwydr wedi ei hennill dros y deugain a mwy o flynyddoedd ers boddi'r cwm mae'n rhaid cydnabod fod dyfodol ein cymunedau Cymraeg mewn sefyllfa fwy argyfyngus nac erioed.""Dyna pam yr ydym wedi dewis 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' fel thema i uno'n gweithgareddau yn yr Eisteddfod, a'r cyfarfod cyhoeddus am 2 o'r gloch brynhawn dydd Mercher ym Mhabell y Cymdeithasau yn ganolbwynt i'r cyfan. Gwahoddwn y cyhoedd i lunio Logo i'r Coleg Ffederal Cymraeg, fydd fe obeithir yn dechrau cropian ymhen dwy flynedd. Ac unwaith eto bydd yr ymgyrch Ddeddf Iaith yn bwrw ei chysgod drosom. Rhaid sicrhau fod y pwerau digonol yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn yr Etholiad Cyffredinol neu fe fydd yn rhaid cychwyn ar yr holl waith eto. Nid yw amser o'n plaid. Bydd protest am 2 bnawn Gwener. Ar ôl ymgyrchu ar y Maes bydd cyfle i ymlacio yn ein gigs gyda'r nos o'r Sadwrn 1af i'r Sadwrn olaf yn 'Pabell Tafod' (ger y Ganolfan Hamdden) ac ar y nos Fawrth yn y Plas Coch."
Dyma grynodeb llawn o'n gweithgarwch ar y Maes, heb anghofio ein bod yn cynnal gigs bob nos:Lansio Cystadleuaeth Logo Coleg Ffederal CymraegMae'r Coleg Cymraeg yn perthyn i ni oll!2pm dydd Llun 3ydd Awst, Uned Cymdeithas yr IaithLansiad swyddogol a gweithdy dan ofal Angharad Tomos. Mae yna wahoddiad i bob darpar fyfyriwr o 7 i 70 ymuno yn y gwaith o lunio Logo i'r Coleg Ffederal dan gyfarwyddyd Angharad Tomos. Bydd hwnnw yn dechrau ar ei waith mewn dwy flyneddCyfarfod Cyhoeddus Cymunedau Cymraeg CynaliadwyDr Carl Clowes, Ffred Ffransis, Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd). Cadeirydd: Menna Machreth.2pm Dydd Mercher 5ed Awst. Pabell y Cymdeithasau.Ein bwriad yw meddwl am ffyrdd o rymuso a sbarduno cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i'r Cynlluniau Datblygu Lleol. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn rhoi sylw arbennig i ardal PenllynG?yl Tryweryn - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'Fesul t? nid fesul tonY daw'r môr dros dir Meirion' G.Ll.O.1 - 7 yh Awst 6 2009, £5. Capel Coffa Celyn.Efallai mai helynt Tryweryn yn ôl yn y 60au ddangosodd i ni gyntaf pa mor fregus yw ein cymunedau Cymraeg a pha mor ddiamddiffyn oeddem ni fel Cymry. Dyma gyfle i dynnu sylw at arwyddocâd gwleidyddol Tryweryn gyda chymorth beirdd, rapwyr a cherddorion. Bydd Bob Delyn, Gwilym Morus, Gareth Bonello a DJ Lembo yn cymryd rhan. Dewi Prysor fydd y Meuryn yng ngofal yr Ymryson.Protest: Pwerau Iaith Llawn i Gymru - cyn daw'r amser i Ben.2pm Dydd Gwener 7 Awst. Uned Cymdeithas yr Iaith GymraegBydd 'Big Ben' ei hun yn teithio'r holl ffordd o Lundain er mwyn ymddangos yn y brotest hon. Mae'n dod i Faes yr Eisteddfod er mwyn dangos fod yr amser yn prinhau os ydym am weld y pwerau dros yr iaith Gymraeg yn cael eu trosglwyddo o Lundain i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru. Os na ddigwydd hyn cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf a gynhelir unrhyw bryd o hyn i fis Mehefin nesaf bydd yr holl ymgyrchu yn ofer. Cawsom lythyr gan Peter Hain Ysgrifennydd Cymru ar drothwy'r Eisteddfod yn dweud ei fod yn barod i'n cyfarfod i drafod y mater ac mae Hywel Williams AS sy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig am gael cyfarfod gyda ni yn yr Eisteddfod ei hun. Dewch i fynnu nad yw'r gwleidyddion yn llusgo eu traed ac na fydd ein hawliau ni fel Cymry yn cael eu hanwybyddu unwaith eto. Arweinir y brotest gan Siân Howys, Menna Machreth a Bethan Williams.