Ysgol Pentrecelyn: angen newidiadau cenedlaethol medd Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i atal Cyngor Sir Ddinbych rhag cau Ysgol Pentrecelyn, gan alw am newidiadau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod ad-drefnu ysgolion yn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg. 

Dywedodd Bethan Ruth Roberts, swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae'r dyfarniad yn newyddion da iawn i'r Gymraeg. Hoffwn i longyfarch yr ymgyrchwyr lleol sydd wedi llwyddo curo swyddogion ystyfnig y cyngor. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg mae'n rhaid i’n system addysg sicrhau cynnydd sylweddol yng nghanran y disgyblion sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Allwn ni ddim fforddio rhagor o benderfyniadau dwl fel hyn. 

“Mae dyfarniad y llys yn codi cwestiynau am ein cyfundrefn addysg yn genedlaethol: ddylai ddim bod modd i gyngor sir israddio categori iaith ysgolion. I'r gwrthwyneb, dylai unrhyw ad-drefnu cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, mae'n bwysig nodi bod diffygion yn y broses sydd wrth wraidd y dyfarniad cadarnhaol heddiw yn hytrach na chyfraith gadarn sy'n ffafrio'r Gymraeg.  Ry'n ni'n falch felly bod yr Ysgrifennydd Addysg newydd wedi dweud wrthym ni ei bod yn fodlon ail-ystyried y cod a'r gyfraith i weld sut i sicrhau bod y system yn gweithio o blaid y Gymraeg bob tro.”