Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "adael plant mewn limbo" oherwydd y penderfyniad i wrthod gadael i Gyngor Caerdydd symud Ysgol Treganna i adeilad fwy o faint er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol.Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol. Dylai pawb ddod at ei gilydd gyda'r nod o sicrhau ysgol gyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned o Gaerdydd fel na ddaw pwysau gorlenwi yn y dyfodol.""Mae'n warthus bod llawer o rieni Cymraeg a di-Gymraeg sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg yn cael eu gadael mewn limbo wrth fod un haen o lywodraeth yn beio'r llall. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd mewn nifer o lefydd eraill yng Nghymru - megis Rhydaman - hefyd."Dywedodd Nia Williams, sydd yn rhiant i blant yn Ysgol Treganna:"Rydyn ni'n gandryll. Mae'r ysgol yn fwy na gorlawn. Mae'r Cynulliad yn cyfiawnhau'r anffafriaeth ieithyddol sy'n bodoli yng nghymuned Treganna. Mae adnoddau ac adeiladau'r ysgol yn annigonol i gwrdd ag anghenion addysgol."Mae Cymdeithas yr Iaith yn benderfynol o gefnogi rhieni sydd am sicrhau a chryfhau addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, boed hynny yn ein pentrefi gwledig neu yn ein prifddinas.