Ysgolion Gwledig - Rhwydd Hynt i Anwybyddu Côd y Llywodraeth?

Bydd dyfodol ysgolion gwledig yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd yn y ddau ben o Gymru yfory (dydd Mawrth, 25ain Medi).

Yn adeilad y senedd ym Mae Caerdydd, bydd y Pwyllgor deisebion yn trafod tynged y ddeiseb a lofnodwyd gan dros 5000 o bobl yn galw ar y Gweinidog Addysg i esbonio pa gamau y gellid eu cymryd i sicrhau fod Awdurdodau Lleol ddim yn anwybyddu'r Côd Trefniadaeth Ysgolion sy'n mynnu fod chwilio pob opsiwn arall cyn bod cynnig cau ysgolion, a'r côd newydd sy'n gosod rhagdyb o blaid eu cadw.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â Rhun ap Iorwerth (AC Ynys Môn ac aelod o'r Pwyllgor Deisebion) i sicrhau fod y pwyllgor yn mynnu atebion pendant gan y Gweinidopg neu i wahodd cynigwyr y ddeiseb at gyfarfod nesaf y pwyllgor i drafod y mater. Trefnwyd y ddeiseb gan Gymdeithas Rhieni Athrawion Ysgol Bodffordd - gyda chymorth Cymdeithas yr Iaith i gasglu llofnodion ledled y wlad.

Ar yr un pryd ym mhen arall y wlad, bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cyfarfod wythnos ar ôl i'r Pwyllgor Gwaith roi hawl i'r swyddogion adolygu dyfodol pob ysgol yn yr ynys sydd â llai na 120 o ddisgyblion, a thrwy hynny fygwth 17 o gymunedau gwledig, pennaf Gymraeg, ar yr ynys.

Mewn neges at arweinydd a chadeirydd y cyngor, dywed Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Mater tristwch i ni yw fod y Cyngor yn bwriadu anwybyddu côd newydd y llywodraeth i osod rhagdyb o blaid ysgolion Gwledig. Yn lle hynny, rydych chi'n caniatau i swyddogion ystyried 17 arall o ysgolion yr ynynys fel "problemau" a gosod cysgod tywyll dros y cymunedau gwledig pennaf Gymraeg hyn. Gofynnwn i'r Cyngor newid cylch gorchwyl y swyddogion i astudio'n hytrach sut y gellir datblygu'r ysgolion hyn - trwy gydweithio a thrwy eu trin fel asedau cymunedol - a sut i ddefnyddio dulliau dyfeisgar o resymoli costau gweinyddu ar y cyd.

“Dyma'r unig strategaeth a fydd yn gydnaws â chôd newydd y llywodraeth sy'n gosod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig."