'Ysgytwad’ cyn lleied o wariant ar hyfforddiant Cymraeg

LLAI na phedair mil o bunnau allan o gyllideb o bron i £17 miliwn sydd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned, yn ôl ffigyrau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth i’r mudiad iaith, mae nifer o brif gyllidebau’r Llywodraeth yn ariannu bron dim darpariaeth yn Gymraeg, gyda dros 99% o’r arian yn mynd ar ddarpariaeth Saesneg. Yn ei strategaeth iaith a gafodd ei gyhoeddi’r llynedd, mae’r Llywodraeth yn addo prif ffrydio'r iaith o fewn [ei] holl waith...”

[Clicwch yma am yr ystadegau llawn]

Dros y dair blynedd diwethaf, allan o 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y Gymraeg, neu lai na phedwar ym mhob mil o brentisiaethau. Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai 0.02% yn unig o’r un deg saith milliwn a wariwyd ar ddysgu oedolion yn y gymuned dros dair blynedd, neu £2 am bob £10,000, a ddefnyddiwyd ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Yn un o'r blynyddoedd, chafodd dim un geiniog ei wario o'r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Dros yr un cyfnod, 0.3% yn unig, neu £3 am bob £1000, o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r ffigyrau'n ysgytwol ac yn anodd iawn i'w credu. Maen nhw'n dangos bod y Gymraeg yn cael ei thanseilio'n llwyr gan arian prif-lif Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd mae'r Saesneg, un o ieithoedd mwyaf pwerus y byd, yn derbyn cymorthdal enfawr gan drethdalwyr Cymru. Mae patrymau gwariant y Llywodraeth yn lleihau defnydd y Gymraeg a'r cyfleoedd i'w defnyddio. Felly tra bod y Llywodraeth yn clustnodi symiau cymharol fach o arian i fentrau Cymraeg eu hiaith, mae effaith Cymraeg y prosiectau hynny'n cael eu tanseilio a gwrth-droi'n llwyr gan bolisïau eraill. Dyn nhw ddim yn gweithredu mewn ffordd gydlynus.

"Dylai rhai o'r ffigyrau penodol hyn godi cywilydd ar Weinidogion. Yn enwedig y swm pitw, llai na phedair mil o bunnau dros dair blynedd, ar gyfer dysgu'r holl oedolion yng Nghymru yn y gymuned trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n chwerthinllyd o isel. A gobeithio wrth weld y wybodaeth, y gwnan nhw ymrwymo i godi'r ffigwr yna yn sylweddol.

"Mae’n rhaid bod hyfforddiant yn y gweithle trwy gyfrwng y Gymraeg, os ydyn ni o ddifrif am ei gwneud yn iaith y byd gwaith. Pa syndod yw hi fod defnydd y Gymraeg yn isel yn y gweithle pan mae dros  99% o holl wariant y Llywodraeth ar y math yna o hyfforddiant yn y Saesneg?  Mae dyfodol y Gymraeg yn nwylo ein pobl ifanc, yn ôl y Llywodraeth. Ond, ydyn nhw'n mynd i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle os nad oes prentisiaethau iddyn nhw yn Gymraeg? Ydy oedolion yn mynd i gadw eu Cymraeg pan nad oes dim arian ar gyfer eu dysgu yn y gymuned trwy gyfrwng eu hiaith?

"Mae'r problemau hyn yn ymestyn yn ehangach na'r gyllideb yn unig. Fel gyda'r datblygiadau tai diangen yn Sir Gaerfyrddin a llefydd eraill, mae'r Llywodraeth yn ariannu mentrau iaith i gryfhau'r Gymraeg, tra bod y gyfundrefn tai yn tanseilio eu gwaith yn llwyr.”

Mewn cyfarfod diweddar rhwng y Prif Weinidog a dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cytunodd Carwyn Jones i gomisiynu adolygiad annibynol o effaith iaith holl wariant y Llywodraeth. Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar:

"Rydan ni eisoes wedi mynegi pryderon am effaith gwariant Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg. Buon ni'n falch o glywed fod y Prif Weinidog wedi cytuno i'n hawgrym i gomisiynu adolygiad annibynnol o ôl-troed ieithyddol eu holl wariant ar draws pob adran. Byddwn ni'n tynnu ei sylw at y ffigyrau hyn, ac yn pwyso arno i weithredu ar frys a chomisiynu'r adolygiad. Byddai rhagor o oedi yn golygu hyd yn oed llai o ddefnydd o'r iaith a llai o siaradwyr - mae’r hen strategaeth o geisio hybu’r iaith tra’n anwybyddu polisïau sy’n niweidiol iddi wedi methu. Nawr yw'r amser am weithredoedd cadarnhaol gan y Llywodraeth ar yr iaith, ac fel mae’r ffigyrau hyn yn dangos, rhaid gwneud hynny ar draws pob adran."