Ystyried gweithredu uniongyrchol dros ganlyniadau'r Cyfrifiad

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru os nad oes newidiadau polisi sylweddol mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, yn ôl siaradwyr mewn rali ar faes y brifwyl heddiw (12:30pm, Dydd Gwener, Awst 8fed).



Buodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans, y cerddor Tecwyn Ifan a’r ymgyrchydd iaith Menna Machreth ymysg y siaradwyr yn y rali yn yr Eisteddfod a dynnodd sylw at effaith gor-ddatblygu tai ar gyflwr yr iaith mewn cymunedau.



Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweld symud ar chwe phwynt polisi er mwyn profi bod y Gynhadledd Fawr wedi bod yn werth chweil. Amlinella’r llythyr chwe maes lle maen nhw eisiau gweld gweithredoedd cyflym a chadarn - addysg Gymraeg i bawb, pedryblu’r buddsoddiad yn y Gymraeg, safonau iaith i greu hawliau clir, system gynllunio newydd a’r Gymraeg yn rhan o ddiffiniad cyfreithiol datblygu cynaliadwy. Mae’r llythyr hefyd yn amlinellu cynigion manwl am sut i drawsnewid y system gynllunio.



Yn siarad ar ôl y rali, meddai Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni wedi cael llawer iawn o siarad a dadansoddi wedi’r Cyfrifiad - ond mae’n hen bryd i ni weld gweithredu. Fel arall, bydd yr holl siarad, a’r gynhadledd fawr, wedi bod yn wastraff amser. Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cynigion polisi cynhwysfawr i’r Prif Weinidog er mwyn sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg. Os nad yw’r Llywodraeth yn dechrau cymryd camau cadarnhaol, byddwn ni’n gweithredu yn ei herbyn - bydd dyletswydd

arnom i dynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa.”



“Yn y maes tai a chynllunio, rydyn ni wedi bod yn glir gyda Carwyn Jones: nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n cymunedau a’n pobl - boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio - wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais ohonynt. Cred y Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Cymraeg, a dylai'r system gynllunio cael ei drawsnewid er mwyn sicrhau twf yn nifer y cymunedau Cymraeg eu hiaith.



“Yr hyn sydd hefyd yn drawiadol yw cyn lleied sy’n cael ei wario ar y Gymraeg - mae’r swm sy’n cael ei wario ar hyn o bryd yn chwerthinllyd. Mae Carwyn Jones wedi addo adolygu effaith iaith y gyllideb, mae angen gweld buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn ei gyllideb nesaf yn yr Hydref.”



Yn sgil gwaith ymchwil, a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac eraill yn Awdurdod Lleol Conwy, gwelwyd mai dim ond 8% o breswylwyr newydd i’r Sir oedd yn medru’r Gymraeg, sef 22% yn llai na’r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg yn y Sir.



Mae Awdurdod Lleol Dinbych wedi clustnodi tir ar gyfer adeiladu chwe mil o dai newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf cymunedau fel Dinbych, Rhuddlan a Bodelwyddan. Gwelwyd cwymp yn nifer y siaradwyr yr iaith yn Sir Ddinbych o 26.4% i 24.6% o’r boblogaeth dros y degawd diwethaf. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa yn yn y sir yn enghraifft o fethiant y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru.


Y Llythyr at Carwyn Jones am y chwe phwynt polisi