Pryder am effaith Gymraeg newidiadau cynllunio

Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon heddiw y gallai’r Llywodraeth dorri ei haddewidion i’r Gymraeg gyda'i newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn gynllunio.

Mewn llythyr at y Gweinidog John Griffiths, mynega Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bryder bod y newidiadau yn “ dangos bwriad ... i weithredu’n groes i Strategaeth Iaith [Llywodraeth Cymru]”. Daw’r sylwadau yn sgil adroddiadau diweddar am y posibiliad o lacio rheoliadau cynllunio a fyddai’n rhoi llai o bwyslais ar effaith cymdeithasol, megis y Gymraeg, caniatau datblygiadau.

Fodd bynnag, mae Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod “ tystiolaeth o wledydd ar draws y byd, dros nifer o ddegawdau, yn dangos bod cyswllt cryf rhwng hyfywedd a goroesiad iaith a bodolaeth ardaloedd daearyddol lle ystyrir yr iaith honno fel y brif iaith ... [mae] nifer y cymunedau yng Nghymru lle mae dros 70 y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi lleihau yn sylweddol dros y degawdau diwethaf.

Mae strategaeth iaith y Llywodraeth hefyd yn ymrwymo i “ ystyried yr angen i ddarparu canllawiau ychwanegol ynghylch ystyried materion yn ymwneud â’r Gymraeg wrth i Gynlluniau Datblygu Lleol gael eu paratoi . ” gan fod y “ system gynllunio yn ddull pwysig ar gyfer rheoli newid mewn modd positif ”.

Yn y llythyr at y Gweinidog Amgylchedd, dywed Cen Llwyd Is-Gadeirydd grwp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Cred y Gymdeithas mai hanfod economi cynaliadwy yw un lle mae’r Gymraeg, yn ogystal â’r amgylchedd yn ehangach, yn ffynnu ... Eisoes, mae’r gyfundrefn gynllunio yn milwrio yn erbyn y Gymraeg; wrth greu problemau difrifol sydd yn peryglu ei dyfodol fel iaith fyw. O dan drefn sydd ohoni rydym yn gweld datblygiadau tai di-angen yn cael eu codi ac, er fod canran fach o dai fforddiadwy yn rhan ohonynt, dydy hynny ddim yn ddigon i sicrhau y gall fod pobl leol brynu tŷ yn eu hardal leol. Mae'n trefi yn crebachu oherwydd datblygiadau tu allan i’r dref, sydd yn denu busnesau mawr nad sydd yn ystyried y Gymraeg o gwbl a ble bydd arian yn mynd yn syth i gyfrifon banc tu allan i’r gymuned. Byddai llacio rheolau cynllunio yn cynyddu ac yn dwysau'r problemau hyn.”

Daw hyn rai misoedd cyn i ganlyniadau'r Cyfrifiad ynglŷn a'r Gymraeg gael eu rhyddhau. Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud:

“Nid yw’n syndod bellach i weld Llywodraeth Prydain yn ffafrio buddiannau'r farchnad dros bopeth arall, ond siomedig tu hwnt fyddai gweld Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un trywydd neo-ryddfrydol gan y byddai’n peryglu’n bellach ein hiaith a’n hamgylchedd ... Gofynnwn i chi ystyried hyn yn ofalus cyn gweithredu. … Rydym yn nodi fod gan bob cymuned y potensial i fod yn gymunedau Gymraeg ei hiaith ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hynny hefyd a gwneud y Gymraeg yn ganolog i'w holl weithredoedd.”

Ychwanegodd Cen Llwyd:

“Fel mudiad, rydym eisoes wedi dechrau ar gynllunio a gweithredu i adfer y Gymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn galw ar gymunedau ar draws Cymru, wrth arwain tuag at y cyhoeddiad am y Cyfrifiad, i ymuno yn y gwaith o adfer y Gymraeg ac i ddeffro'r Llywodraeth i'r argyfwng yn ein cymunedau."

Ymatebodd y Gymdeithas i ymgynghoriad ar ddechrau’r flwyddyn am Fil Cynllunio arfaethedig Llywodraeth Cymru. Galwodd y mudiad am system a fyddai’n rhoi buddiannau pobl cyn elw.