Polisi Iaith y Cynulliad: croesawu gwelliannau

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r newyddion heddiw bod aelodau o wahanol bleidiau yn ymdrechu i wella polisi iaith y Cynulliad.

Ym Mis Mehefin eleni, galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar i ACau wneud rhagor o newidiadau i'r Bil Ieithoedd Swyddogol i sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â'r Saesneg. Heddiw, daeth y newyddion bod Suzy Davies AC ac Aled Roberts AC wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny.

Mae'r mudiad yn dadlau bod cyhoeddi dogfen yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn ofyniad sylfaenol ac yn egwyddor bwysig sydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru, ac felly ni ddylai'r Cynulliad ei thanseilio.

Croesawodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y newyddion:

"Rydyn ni'n croesawu gwelliannau Aled Roberts a Suzy Davies i'r Bil. Gwelliannau a fyddai'n sicrhau bod yr holl drafodion ar gael yn Gymraeg ac y byddai fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag aelodau o bob plaid yn y Cynulliad i wella'r ddedfwriaeth ac yn galw ar i Aelodau Cynulliad eraill gefnogi'r gwelliannau hyn.”

“Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn hollbwysig i statws y Gymraeg fel iaith swyddogol ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg. Mae teclynnau arlein Google Translate, Cysill ac eraill yn elwa o'r corpws iaith a ddatblygir gan y Cynulliad. Felly, maen nhw'n cael effaith bositif uniongyrchol ar ddefnydd yr iaith.”

“Nid oes amheuaeth bod gan y Cynulliad record wael ar faterion Cymraeg yn ddiweddar. Dros y 3 blynedd diwethaf, mae buddsoddiad yn y Gymraeg gan Gomisiwn y Cynulliad wedi gostwng o dros 14%, tra bod y gyllideb yn gyffredinol wedi cynyddu'n sylweddol. Am 17 mis mi oedd y Cynulliad yn torri ei gynllun iaith ei hunan, ac mae defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad yn isel. Dylai hynny fod yn fater o embaras i'n deddfwrfa genedlaethol. Nid ydym yn derbyn y sylwadau gan rai gwleidyddion sy'n awgrymu mai dewis rhwng cyfieithu a defnydd yw hyn. Mae digon o ymchwil yn profi bod statws iaith leiafrifol yn effeithio'n uniongyrchol ar ei defnydd. Er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg a galluogi pobl i weithio drwy’r Gyrmaeg yn y Cynulliad mae angen cryfhau'r Bil a'r Cynllun arfaethedig yn bellach.”

Mae'r mudiad hefyd wedi croesawu cefnogaeth y Cyng. Dyfrig Jones a Meirion Prys Jones, cyn-brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i'r alwad dros newidiadau pellach i'r Bil. Cynhelir y ddadl derfynol ar y Bil Ieithoedd Swyddogol ddydd Mercher yma (3 Hydref).

Erthygl Golwg360 ac yn y Western Mail