Y Bil Ieithoedd Swyddogol - Ymateb Cymdeithas yr Iaith

cofnod.jpgDywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y Bil wedi ei basio yn y cyfnod hwn yn ei daith ddeddfwriaethol, a'r ffaith bod sicrwydd y bydd Cofnod Cymraeg o sesiynau llawn ar gael i'r cyhoedd."

"Fodd bynnag, mae rhaid i ni fynegi siom na wnaeth aelodau o wahanol bleidiau gefnogi prif welliannau Aled Roberts a Suzy Davies a fyddai wedi sicrhau dwyieithrwydd yn y Cynulliad. Mae gennym bryder hefyd am safon y drafodaeth; mae cwestiynau wedi cael eu codi am wiredd rhai o'r datganiadau a wnaed yn y ddadl."

"Mae'n debyg y gallai rhai datganiadau fod wedi camarwain aelodau a dylanwadu ar y pleidleisiau yn y siambr. Byddwn ni'n ystyried pa gamau y dylen ni gymryd ynghylch hyn maes o law."