Sylwadau cwmni ynni E.On - ein hymateb

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i sylwadau'r cwmni ynni E.On am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r cwmni yn ceisio dychryn a drysu pobl; mae nifer o gwmniau ynni eisoes yn darparu rhywfaint o filiau yn Gymraeg. Wrth gwrs, cafodd yr un ddadl ei defnyddio yn erbyn arwyddion ffyrdd Cymraeg, ac mae hi'n amlwg yn un gwbl ffals. Mae cyfathrebu yn Gymraeg yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaeth yng Nghymru. Cred y Gymdeithas yw bod gan bawb, o ba gefndir bynnag, yr hawl i fyw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach mae gan y Gymraeg statws swyddogol, yn anffodus mae'n ymddangos bod rhai cwmniau anwybodus ddim yn sylweddoli hynny eto - mae'n amser iddynt gadw mewn cysylltiad gyda'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru."