Ail dai - 'pryder mawr'

Mewn ymateb i'r ffigyrau am y nifer o ail dai, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Mae ffigurau hyn yn destun pryder mawr, gan fod mewnfudo ac allfudo yn rhai o'r ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Rydyn ni'n rhagweld y bydd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn dirywio ymhellach os nad oes newidiadau radical i'r system gynllunio ac economaidd.

“Ein blaenoriaeth fel mudiad yw ceisio gwrthdroi'r patrwm hwn o ddirywiad. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ymateb i’r realiti hwn hefyd a gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau Cymraeg. Er enghraifft, mae angen iddynt ddiogelu'r farchnad dai ar gyfer pobl leol a sicrhau bod polisïau cynllunio roi ystyriaeth lawn i oblygiadau cymunedol y nifer o dai haf.

Mae'r Gymdeithas yn cynnal cyfarfod yn Aberystwyth ar y 3ydd o Dachwedd i drafod ei hymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith.