Y Gymraeg yn San Steffan - galw am sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru David
Jones AS ddefnyddio ei hawl i sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn
cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011 er mwyn sicrhau eu bod yn
cynnig gwasanaethau Cymraeg priodol i bobl Cymru.

Mae'r Mesur yn caniatau ar gyfer gosod Safonau ar gyrff y Goron - fel y DVLA a'r
Adran Gwaith a Phensiynau - ond dim ond gyda chaniatâd Ysgrifennydd Gwladol
Cymru.

Wrth ymateb i ddadl Guto Bebb AS yn San Steffan, dywedodd Sian Howys, llefarydd
hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r ateb i bryderon Guto Bebb yn syml. Mae'r grym gan Ysgrifennydd Gwladol
Cymru o dan y Mesur i sicrhau bod adrannau Llywodraeth San Steffan yn
cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011. Galwn felly ar yr
Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, i ddatgan y bydd yn rhoi ei gydsyniad i
gynnwys y cyrff hyn o dan y gyfundrefn Safonau, er mwyn rhoi diwedd ar yr holl
ansicrwydd.”

"Does dim dwywaith bod cyrff y Goron yn cynnig gwasanaethau pwysig i bobl Cymru,
a'i bod yn hanfodol sicrhau tegwch i'r Gymraeg yn y gwasanaethau hynny.  Fodd
bynnag, nid drwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae sicrhau hynny. Methodd y
Ddeddf honno yn llwyr o safbwynt sicrhau tegwch i'r Gymraeg gan gyrff y Goron.
Mae adrannau o'r Llywodraeth yn San Steffan yn tramgwyddo ar hawliau pobl i
ddefnyddio'r Gymraeg yn barhaus, ac mae'r carchardai a'r llysoedd yn
enghreifftiau gwarthus sydd wedi cael sylw yn ddiweddar.

"Mae Deddf 1993 wedi hen chwythu ei phlwc, ond mae Mesur y Gymraeg 2011 yn
cynnig fframwaith cryfach ar gyfer sicrhau gwasanaethau Cymraeg drwy gyfundrefn
Safonau. Pasiodd Mesur 2011 gyda phleidlais unfrydol yn y Cynulliad
Cenedlaethol."