Croesawu safiad Plaid Cymru ar gynllun iaith y Cynulliad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’n frwd alwad Plaid Cymru ar i’r Cynulliad ddychwelyd at gyhoeddi’r Cofnod o drafodion sesiynau llawn o fewn 24 awr yn gwbl ddwyieithog.

Mae’r datganiad yn golygu bod tair allan o’r pedair plaid yn y Cynulliad wedi datgan eu bod am gyhoeddi cofnodion y Cynulliad yn gwbl ddwyieithog ac i’w cyhoeddi’n llawn yn Gymraeg a’r un pryd â’r Saesneg.

Mewn cofnod blog a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Gwener Tachwedd 23), mae AC Ceredigion Elin Jones yn amlinellu safbwynt grŵp Plaid Cymru: “Gan fod y Cofnod drafft yn un cyhoeddus ar ôl 24 awr, yna ein barn yw y dylai’r Cynllun ddweud fod y Cofnod yma i’w gyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg o fewn 24 awr.”

Mae'r Gymdeithas yn dadlau bod cyhoeddi dogfen yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn ofyniad sylfaenol ac yn egwyddor bwysig sydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru, ac felly na ddylai'r Cynulliad ei thanseilio. Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn ni’n croesawu datganiad Elin Jones yn fawr iawn, ac yn gobeithio y bydd rheolwyr y Cynulliad, y Comisiwn, yn cytuno â hi.  Byddai dilyn ei hargymhellion yn golygu bod y Cynulliad yn cyfateb â safonau drafft Comisiynydd y Gymraeg ac argymhelliad yr ymchwiliad annibynnol. Mae’n bwysig gosod sylfaen Cynllun Ieithoedd y Cynulliad yn iawn. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at rannu ein syniadau am ddull arloesol i adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad. Nid ydym yn derbyn y sylwadau gan rai gwleidyddion sy'n awgrymu fod rhaid dewis rhwng cyfieithu a defnydd. Byddwn ni’n cwrdd â’r pleidiau i gyd yn ogystal â swyddogion Comisiwn y Cynulliad i drafod hyn yn bellach.”

Dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf, mae gwariant ar wasanaethau Cymraeg y Cynulliad wedi ei dorri mewn termau real o 16% neu £135,618 , tra bod y gyllideb yn gyffredinol wedi codi’n uwch na chwyddiant.

Ychwanegodd Sian Howys: Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i statws y Gymraeg fel iaith swyddogol - ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg. Mae teclynnau arlein Google Translate, Cysill ac eraill yn elwa o'r corpws iaith a ddatblygir gan y Cynulliad. Felly, maen nhw'n cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ddefnydd yr iaith ac yn cadarnhau’r ymchwil sydd yn profi bod statws iaith leiafrifol yn effeithio'n uniongyrchol ar ei defnydd.

"Nid oes amheuaeth bod record y Cynulliad wedi bod yn wael o ran y Gymraeg yn ddiweddar. Yn osystal â gweld gostyngiad mewn gwariant ar y Gymraeg, bu’r Cynulliad  am 17 mis yn torri ei gynllun iaith, ac mae defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad yn isel. Mae amlwg felly fod angen cryfhau'r Cynllun arfaethedig ymhellach.”

Cofnod blog Elin Jones