Bil Datblygu Cynaliadwy yn 'anwybyddu'r Gymraeg'

Gallai deddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, a gafodd ei chyhoeddi heddiw, danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod y cynlluniau yn awgrymu na fydd lles y Gymraeg yn rhan o'r agenda datblygu cynaliadwy fel amlinellir yn y Bil, yn groes i ymrwymiad strategaeth iaith y Llywodraeth i  "prif ffrydio'r iaith o fewn ein holl waith sy'n ymwneud â chefnogi a datblygu cymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn gwbl glir bod angen prif-ffrydio'r Gymraeg yn  ei holl adrannau,  yn enwedig lle mae'r gwaith yn effeithio ar ddyfodol cymunedau Cymraeg. Fodd bynnag, o dan y Bil hwn, mae 'na berygl bod cyrff cyhoeddus yn mynd i israddio'r Gymraeg fel ystyriaeth polisi .  Nid yw'n glir bod swyddfa John Griffiths yn sylweddoli maint yr her sy'n wynebu ein cymunedau Cymraeg - dylai'r mater yma fod yn un o'r pethau sydd ar frig ei agenda."

"Mae'r Llywodraeth am wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol cyrff cyhoeddus.  Yn y cyd-destun hwnnw felly, mae'n hanfodol bod lles y Gymraeg yn rhan o'r diffiniad  o ddatblygu cynaliadwy. Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau a pholisïau - gan gynnwys datblygiadau tai ac ad-drefniadau addysg - yn cael effaith ar y Gymraeg; ac mae'r iaith wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd penderfyniadau anghynaladwy mewn nifer o feysydd. Mae hwn felly yn gyfle pwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn elwa bob tro bydd cyrff yn gwneud penderfyniad. Mae hefyd yn gyfle i symleiddio penderfyniadau a fyddai'n osgoi trin y Gymraeg yn docenistaidd ac arwynebol."

 

"Rydym yn rhagweld y bydd canlyniadau'r Cyfrifiad wythnos nesaf yn codi cwestiynau am gyflwr yr iaith yn ein cymunedau. Nid yw'r Llywodraeth wedi dangos arweiniad na gweledigaeth dros y deng mlynedd diwethaf ers i ffigyrau Cyfrifiad 2001 ddangos her gymunedol ddifrifol. Mae'r papur gwyn yma yn dangos mai gweledigaeth gul sydd gan y Llywodraeth o ran y Gymraeg ac na allwn ddibynnu arno. Yn ystod ein taith drwy Gymru eleni a thrwy sefydlu Gynghrair Cymunedau Cymraeg, rydym wedi gweld mai ddyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg. I'r perwyl hyn rydyn ni'n trefnu cyfres o raliau sydd yn galw pobl ynghyd gyda'r neges bod angen i gymunedau weithredu drostyn nhw eu hunain am nad oes modd dibynnu ar y Llywodraeth."