Robin Farrar - Cadeirydd newydd

Bydd cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn ol Cadeirydd newydd y mudiad Robin Farrar.

Etholwyd Robin Crag Farrar, 27 oed, yn Gadeirydd newydd ar Gymdeithas yr Iaith yng nghyfarfod Senedd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, 8fed o Ragfyr). Yn wreiddiol o Fynydd Llandygái, Gwynedd, mae’n gweithio fel hwylusydd prosiectau ym maes cynaladwyedd ym Machynlleth.

Wrth gael ei ethol meddai Robin:

“Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar gymunedau Cymraeg eu hiaith, a dyna yw ein prif flaenoriaeth fel Cymdeithas. Rydyn ni’n dal ym mlwyddyn dathlu ein hanner canmlwyddiant, ac mae’r momentwm hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg cynaliadwy. Os ydan ni’n credu eu bod yn bwysig, rhaid gweithredu nawr.”

Ychwanegodd:

“Mae’r Llywodraeth yn honni bod cynaladwyedd yn beth mawr iddynt ar hyn o bryd, ond eto i gyd rydyn ni wedi gweld droeon, a thros yr wythnos ddiwethaf yn enwedig, nad ydynt yn deall pwysigrwydd y Gymraeg yng nghyswllt cynaladwyedd. Dydy’r Gymraeg ddim yn flaenoriaeth iddynt ac mae’n rhaid i hynny newid.

“Dwi wedi bod yn rhan o grŵp cymunedol sydd wedi penderfynu gweithio drosti ei hun er mwyn gwarchod cymuned Gymraeg, ac rydyn ni’n llwyddo. Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg yn her nid yn unig i’r Llywodraeth, ond yn her hefyd i bob un ohonom weithio o fewn ein cymunedau. Dyna fydd un o’n galwadau yn y cyntaf o gyfres o ralïau dros y misoedd nesaf. Bydd Rali’r Cyfrif yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn yma yn gyfle nid yn unig i bobl ddatgan eu cefnogaeth i gymunedau Cymraeg, ond hefyd i ddod at ei gilydd i greu’r cynlluniau bydd yn diogelu a chryfhau eu cymunedau.

“Bydd yn her enfawr i ni, ond rydyn ni’n barod amdani. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i Gymdeithas yr Iaith a phobl ar draws Cymru, ac rwy’n credu y gallwn ni arwain ar y gwaith o sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy.”

Meddai Bethan Williams wrth ymddiswyddo fel Cadeirydd:

“Rwy’n dymuno’n dda i Robin ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda fe yn fy swydd newydd yn Swyddog Maes Dyfed i’r Gymdeithas. Bu cydweithio wrth arwain mudiad fel Cymdeithas yr Iaith yn gyffrous iawn ac yn heriol. Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n hymgyrchoedd yn ystod fy nghadeiryddiaeth am eu gwaith.”

Mae Robin Farrar, o Fynydd Llandygái, Gwynedd yn wreiddiol, yn 27 oed. Er iddo ddechrau'i yrfa fel athro, erbyn hyn mae'n gweithio ar brosiectau cymunedol sy'n ymwneud â'r amgylchedd â'r economi leol yn ardal Biosffer Dyfi. Fel aelod o Gymdeithas yr Iaith, mae wedi bod yn weithgar ar lefel rhanbarthol, trefnu cwrs amgen ar gyfer dysgwyr, ac yn yr ymgyrch Cymunedau Cynaliadwy. Ymysg ei ddiddordebau hamdden mae reidio beic a cheisio dysgu Pwyleg.