Gwenoliaid Epynt

£35.00
 
 
Mae Tanwen Wilkinson, artist gweledol o ardal yr Epynt, wedi creu nifer cyfyngedig o wenoliaid cain i goffáu cymuned Epynt, 81 o flynyddoedd wedi iddi gael ei diwreiddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Dyma addurn cain i’ch tŷ neu anrheg unigryw ac ystyrlon.
 
Cerdd Waldo Williams ‘Daw’r wennol yn ôl i’w nyth’ yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer creu'r wenoliaid hyn, a’r adar felly yn symbol o’r gobaith y daw cymuned yn ôl i Epynt ryw ddydd. Mae Tanwen wedi defnyddio clai o'r ardal i greu'r wenoliaid sydd yn rhoi mwy fyth o arwyddocâd a gwerth iddynt.
 
Mae tri math gwahanol (ond cofiwch y bydd pob wennol yn hollol unigryw felly mae'r lluniau ond yn rhoi syniad i chi o beth sydd ar gael).
 
1. Gwennol yn sefyll ar stand o ddraenen wen (heb eiriau) – noder bod yr union faint yn amrywio ond maint y bocs yw 13’x13’x20' (£35)
Gwennol ar stand 1 Gwennol ar stand 2
 
2. Gwennol yn hedfan (heb eiriau) – maint y bocs yw 10’x7’x3' (£24)

Gwennol yn hedfan - heb enw 1 Gwennol yn hedfan - heb enw 2

3. Gwennol yn hedfan ac yn cynnwys enw fferm neu'r gair Epynt (gallwch ddewis pa enw i'w gynnwys) – maint y bocs yw 10’x7’x3' (£35)

Gwennol yn hedfan - gydag enw 1   

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwerthu'r gwenoliaid hyn ar ran Cymdeithas y Cymod.

Noder:

  1. ni ellir derbyn archeb o'r tu allan i'r DU. Os ydych yn byw tramor ac am archebu gwennol, a wnewch chi gysylltu'n uniongyrchol gyda Chymdeithas y Cymod os gwelwch yn dda.
  2. mae'r cludiant yn £12.50. Os ydych yn byw yn ardal yr Epynt, gallwch drefnu casglu eich gwennol. Cysylltwch eto gyda Chymdeithas y Cymod i drefnu hyn.

 

Pris: £35.00