04/04/2025 - 18:00
6.00, nos Wener, 4 Ebrill - amser cinio, dydd Sul, 6 Ebrill
Canolfan Garth Newydd, Llanbedr Pont Steffan
Ar ôl saib hir, mae penwythnos Cymdeithas yr Iaith i ddysgwyr yn ôl!
Dyma gyfle arbennig i godi hyder yn y Gymraeg trwy amryw weithgareddau – cwisys, sesiynau canu, teithiau, a mwy!
Dim ond £95 am wely a brecwast am 2 noson a'r holl weithgareddau.
Cliciwch yma i archebu lle neu os am fwy o wybodaeth ebostiwch post@cymdeithas.cymru neu ffoniwch 01970-624501.