Cannoedd i brotestio ar argae Tryweryn yn erbyn ‘chwalfa cymunedau’ gan y farchnad dai

 

Mae disgwyl i gannoedd o ymgyrchwyr brotestio ar argae Tryweryn ddydd yfory (Dydd Sadwrn, y 10fed o Orffennaf), lle fydden ni'n ffurfio rhes ar hyd yr argae yn symbol o'n hymrwymiad i sefyll yn erbyn grymoedd y farchnad dai a pholisïau’r Llywodraeth sy'n bygwth chwalfa cymunedau Cymru a’r Gymraeg.

Am un o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn, mewn rali a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith, byddwn yn sefyll ar hyd yr argae ger y Bala. O flaen y weithred symbolaidd, anerchir y dorf gan sylfaenydd Llety Arall, Menna Machreth, y cerddor Dafydd Iwan, Mabon ap Gwynfor AS a chyn-ymgeisydd Llafur etholaeth Dwyfor Meirionnydd, Cian Ireland. Bydd degau o ffigyrau amlwg o’r meysydd diwylliant, gwleidyddiaeth a busnes yn llofnodi galwad ar y Llywodraeth ‘i weithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli'r farchnad dai a'r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i'w pobl’.

Daw’r rali yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon eu bod am ymgynghori a datblygu cynllun peilot i fynd i’r afael ag effaith prisiau tai uchel ar gymunedau a’r iaith — cynlluniau yr ydyn ni wedi’u barnu’n ‘annelwig a di-uchelgais’ gan ddweud mai dyma’r ‘enghraifft ddiweddaraf o’r Llywodraeth yn llaesu dwylo tra bod argyfwng yn y farchnad dai ar hyd a lled Cymru. 
 
Yn siarad cyn y rali, dywedodd Mabli Siriol Jones, Cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

 

"Mae'r farchnad dai yn achosi gwahanol broblemau mewn gwahanol ardaloedd, ond yr un yw'r canlyniad: bod pobl ifanc yn methu fforddio cartrefi yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y bobl sy'n bresennol yn Rali Tryweryn yn galw ar y llywodraeth i weithredu go iawn dros gyfiawnder cymdeithasol a pharhad y Gymraeg fel iaith gymunedol. 

“Does dim angen rhagor o gynlluniau peilot, ymgynghoriadau a datganiadau di-sylwedd gan y Llywodraeth. Mae angen gweithredu. 

 

“Fel mesurau brys, rydyn ni’n galw am gyflwyno trethi ar dwristiaeth, ar elw landlordiaid, ac ar ail dai, a buddsoddi’r arian mewn cymunedau lleol a dod â thai gweigion ac ail dai yn ôl i ddefnydd pobl leol. Rydyn ni hefyd yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.

“Mae’r atebion gyda ni, yr hyn sydd ei angen yw ewyllys wleidyddol. Dyma gyfle i’r Llywodraeth wrando a gweithredu er budd pobl gyffredin i sicrhau cartref i bawb, a chymunedau cryf, Cymraeg ymhob rhan o’r wlad.”