Deg copa mewn deng niwrnod - dyna fydd y nôd i aelodau Cymdeithas yr Iaith, rhwng dydd Iau, Awst 19, a dydd Sadwrn, Awst 28. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd nifer o aelodau’r mudiad yn dringo deg o fynyddoedd enwocaf Cymru, fel rhan o’r daith gerdded noddedig – ‘Taith y Copaon’ – er mwyn codi arian i goffrau’r Gymdeithas.