swydd cyfathrebu gwleidyddol

Cyfle i ymuno â thîm Cymdeithas yr Iaith!

Yn dilyn rhywfaint o ail-strwythuro, mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn gweithgar ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol.

Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.