![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/Swydd%20Twitter.png)
Yn dilyn rhywfaint o ail-strwythuro, mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn gweithgar ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol.
Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.