Bydd ymgyrchwyr iaith yn gorymdeithio am dridiau i alw am hawliau i bobl allu byw yn eu cymunedau lleol.
Yr wythnos nesaf, bydd aelodau o Ranbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith yn dechrau taith gerdded o dros 30 milltir o Lanfihangel y Pennant i Gapel Celyn dros gyfnod o dridiau.
Ar hyd y daith, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo er mwyn gwneud tai yn fforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol allu eu rhentu a’u prynu.
Fe ddaw'r daith i ben ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf yn rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ lle bydd Dafydd Iwan a Delyth Jewell AS ymysg y siaradwyr.
Esboniodd Jeff Smith, un o’r cerddwyr, y rheswm dros yr orymdaith hir:
“Rydyn ni’n gorymdeithio er mwyn dangos yr angen dybryd i’r llywodraeth weithredu. Mae angen Deddf Eiddo ar Gymru sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn hyfyw, lle mae pobl yn gallu fforddio aros yn eu cymunedau lleol. Nid yn unig mae hyn yn hanfodol i ffyniant y Gymraeg, ond mae hefyd yn fater o gyfiawnder sylfaenol. Mae’r system eiddo sydd gyda ni yn golygu bod pobl yn methu fforddio byw yn eu hardaloedd eu hunain. Ond eto, ar yr un pryd, mae landlordiaid yn byw bywydau bras mewn plastai moethus ar elw rhent pobl gyffredin.
“Mae yna bobl sy’n gallu fforddio ail neu hyd yn oed drydydd cartref, ond eto mae yna weithwyr allweddol, pobl rydyn ni wedi bod yn gwbl ddibynnol arnyn nhw yn ystod y pandemig, sy’n methu fforddio’r un tŷ. Dydy’r gyfundrefn bresennol ddim yn gweithio i bobl Cymru. Mae angen ymyrraeth genedlaethol gan y Llywodraeth ar frys er mwyn sicrhau cyfiawnder. Heb ymyrraeth genedlaethol o ddifri, does dim ffordd y gallwn ni unioni’r anghyfiawnderau yma.”
Bydd y daith yn cychwyn am tua 10:30yb ddydd Iau 8 Gorffennaf yn Llanfihangel y Pennant a bydd yn gorffen tua 1yp ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf yng Nghapel Celyn.
Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth yn dechrau am 1yp ar argae Tryweryn.