Sut i Drefnu Bysiau
Cyn dechrau cysyllta â Swyddogion y Rhanbarth neu’r swyddfa ganolog i sicrhau nad oes bws eisoes wedi ei drefnu, a’u hysbysu o’th gynlluniau.
Wrth drefnu bws ar gyfer gig neu rali mae’n bwysig gofalu nad wyt yn gwneud colled aruthrol. Mae’n syniad felly amcangyfrif faint sy’n debygol o ddefnyddio’r bws. Un ffordd o wneud hyn ydy:
Gellid gosod poster yn yr ysgol yn hysbysebu’r gig/rali a datgan pryd mae’r bws yn mynd a ble gyda’r rhestr i bobl dorri eu henwau arni os ydynt eisiau lle ar y bws.
Unwaith bod rhyw syniad gen ti ynglŷn â niferoedd, rhaid i ti benderfynu os wyt ti’n mynd i gael bws-mini neu fws mawr ac wrth gwrs os oes lot mawr iawn ohonoch, faint o fysiau sydd eu hangen.
Wedi penderfynu ar yr hyn sydd ei angen mae’n rhaid ffeindio sawl cwmni yn gofyn am brisiau. Wrth gwrs dewisa’r rhataf a gwna drefniad dros-dro i ddechrau fel dy fod yn gallu tynnu’n ôl os oes angen. (Cofia hefyd ffonio cwpwl o ddyddiau cyn y digwyddiad i gadarnhau fod popeth dal yn iawn.)
Mae’n hanfodol bwysig i chi drafod yr amser cychwyn ac os yw’r gost yn codi ar ôl rhyw amser arbennig. Gwna yn eglur o’r dechrau lle fydd yn aros i gasglu pobl a faint o’r gloch.
O ran gosod pris, rhaid i ti ofalu bod digon o arian i dalu’r costau. Mae’n gallu bod yn syniad gofyn am arian o flaen llaw rhag ofn i bobl beidio dod ar y diwrnod. Hefyd, gellid rhannu bws gydag ysgol/coleg/ardal gyfagos er mwyn sicrhau fod y bws yn llawn. Os wyt ti’n amau dy fod ti’n debygol o wneud colled, cysyllta gyda’r swyddfa ganolog neu dy swyddog Rhanbarth am gyngor. Noda pwy sydd wedi dod ar y bws ac os oes pobl gwahanol eisiau lifft ar y ffordd yn ôl coda dal arnynt!