Wythnos aelodaeth 2022 - Neges Gwyneth John

Mewn neges ar gyfer wythnos aeldoaeth Cymdeithas yr Iaith mae Gwyneth John, aelod a oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith ym Mhontarddulais yn 1962 ac a oedd ar bont Trefechn yn ystod protest gyntaf y mudiad iaith yn cyfeirio at nifer o enillion, ond yn rhybuddio nad yw'r frwydr ar ben.

Mewn neges fideo dywed:
"O ganlyniad i weithgareddau'r Gymdeithas yn y 60au a'r 70 mae'r Gymraeg ar gael ar hyd a lled Cymru...Hawdd felly tybio fod y frwydr ar ben ond mae hynny ymhell iawn or gwir. Rwyf bellach yn fy 80'au ac yn trosglwyddo cyfrifoldeb i chi i ddod eto i'r gad yn eich cannoedd a'ch miloedd"

Pwyswch yma i weld y fideo