Mae'r cyfnod ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Abersoch yn dod i ben am 1pm ar 23.2.21.
Dylid danfon ymatyebion i moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru
Ymateb Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i’r Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch
Yr ydym yn gwrthwynebu’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch am y rhesymau a nodir isod, ac yn gofyn i Gyngor Sir Gwynedd beidio â chyhoeddi Rhybudd Statudol i gau’r ysgol, ond yn hytrach i drafod gyda’r gymuned leol ac ysgolion cyfagos rhai o’r opsiynau amgen a amlinellir gennym ac nad ysyriwyd yn ystod yr ymgynghoriad anstatudol cychwynnol. Mae’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn rhoi’r hawl i chwi ddilyn y llwybr hwn o beidio â mynd ymlaen â chynnig ond trafod unrhyw opsiynau amgen a ddaw i’r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad statudol. Byddai modd i chi drafod y rhain yn anffurfiol eleni, gan geisio cytundeb, ac yna gynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig ffordd newydd ymlaen pan na fyddai’r pandemig yn cyfyngu ar drafodaeth ystyrlon.
Cydnabyddwn fod y Cyngor Sir wedi gwneud llawer mwy o ymdrech o ran ymgynghoriad anffurfiol, ac wedi creu dogfen ymgynghorol fwy cynhwysfawr nag sy’n digwydd mewn siroedd eraill. Credwn fodd bynnag mai camgymriad ar ran yr Awdurdod, er i’r Gweinidog Addysg ddiwygio’r Côd ar frys ar 7.1.21 i ganiatau hyn, oedd dewis cynnal yr ymgynghoriad statudol holl-bwysig tra roedd yr ysgol ar gau am yr holl gyfnod, y rhieni a’r llywodraethwyr dan bwysau oherwydd y pandemig a’u gallu i drefnu gwrthwynebiad i’r cynnig yn gyfyngedig oherwydd rheol “aros adre”.Credwn y dylai’r Awdurdod gymryd hyn i ystyriaeth wrth ddod i benderfyniad.
Credwn hefyd fod yr amserlen a roddir yn anffodus. Petai’r cynnig yn cael ei gadaernhau, ni byddai ond mis o amser ar ddiwedd tymor yr haf wedi hysbysu rhieni o’r penderfyniad terfynol iddynt ystyried yr opsiwn mwyaf priodol wedyn ar gyfer addysg eu plant – a’u penderfyniad nhw yw hwn yn gyfreithiol. Mae hyn yn groes i arfer gorau cydnabyddiedig o roi tymor cyfan o rybudd i rieni am unrhyw newid sylfaenol. Byddai gosod dyddiad mwy realistig o Fedi 2022 i gychwyn unrhyw drefn newydd yn caniatau digon o amser ar gyfer trafod yr opsiynau amgen y cyfeiriwyd atynt cyn cyhoeddi penderfyniad terfynol.
Y CYNNIG EI HUN
Nid ydym yn gwadu nad yw’r sefyllfa’n un heriol, na bod mwyafrif y ffeithiau yn yr adroddiad yn gywir, ond mae angen tynnu sylw at y ffaith fod penderfyniadau (neu ddiffyg penderfyniadau) mewn polisi cyhoeddus gan Lywodraeth Leol a Chanolog wedi cyfrannu at y problemau, a bod cyfrifoldeb arbennig felly i chwilio pob datrysiad posibl. Dengys y ffigurau mai nifer naturiol y disgyblion fyddai 19, yn hytrach na 10, heblaw am benderfyniad i gyfyngu ar oedran disgyblion i’r blynyddoedd cynharaf. Ar ben hyn, cyfyngwyd ar allu teuluoedd lleol â phlant i fyw yn Abersoch oherwydd diffyg rheolaeth ar y farchnad agored mewn tai sydd wedi gorfodi nifer i fynd o’r ardal. Yr ysgol erbyn hyn yw’r adnodd pwysicaf yn y pentref i yrru adfywiad, a byddai penderfyniad i gau’r ysgol gyfystyr â phenderfyniad i gefnu ar y gymuned o ran Cymreictod, ac i gefnu ar y criw gweithgar lleol a allent fod yn bartneriaid gwerthfawr mewn strategaeth adfywio.
Opsiwn 1 - Datblygu Canolfan Ddiwylliannol Gymraeg
Mae cyfrifoldeb felly i werthuso’n gadarnhaol pob opsiwn posibl. Deallwn awydd y gymuned leol i gynnal yr Ysgol fel Ysgol i Abersoch, yn cynnig rhan gyntaf addysg statudol Gymraeg, ac hefyd addysg feithrin ac yn ganolfan addysgol a diwylliannol Gymraeg i’r gymuned leol. Mae’r ddogfen ymgynghorol wedi cydnabod mai megis cychwyn y mae ychwanegu’r elfennau addysgol a diwylliannol Cymraeg at yr addysg statudol, a bod posibiliadau denu incwm trwy ddefnyddwyr a thrwy geisio grantiau’n ymwneud â gweithgarwch diwylliannol. Mae’n bosibl y gellid denu cyllid ychwanegol trwy fod yr Ysgol yn manteisio are i safle yng nghanol y pentre e.e. Gwyliau Haf yr Ysgol yw’r 6 wythnos o dymor brig twristiaeth. A oes potensial i stafell yn yr ysgol, mewn cydweithrediad â Neuadd y pentre wrth ymyl, gael ei defnyddio i hybu profiad twristaidd llawer mwy Cymreig. Gallai’r gwasanaeth gynnwys gwybodaeth bersonol am yr ardal a’r gweithgareddau, rhaglen o adloniant Cymraeg yn y neuadd, gwybodaeth am yr arfordir a’r llwybrau gwledig (o bosib yn cysylltu ag Opsiwn 2 isod). Gall fod yn wasanaeth, ar ben y wybodaeth pamffledi safonol a baratoir ar hyn o bryd, o gynnig profiad Cymreiciach i ymwelwyr, ac yn gynllun peilot. Gallai hefyd fod yn ffynhonell incwm o bwys. Pwysleisiwn mai un syniad penodol sydd yma, a allai fod yn hyfyw neu beidio, ond yr hyn a gynigiwn yw cyfiawnhau’r gwariant ychwanegol ar ysgol – sydd fel arall yn llwyddo’n addysgol – trwy roi iddi swyddogaeth ychwanegol o ran ADFEDDIANNU ar gyfer y diwylliant Cymraeg. Gall hefyd gynhyrchu llif cyllid, a gellid gweithredu mewn partneriaeth gyda phwyllgor cyswllt lleol. Mae Abersoch, ac adeilad yr ysgol yn benodol, mewn sefyllfa unigryw i weithredu prosiect o’r fath.
Mae’r Asesiad Effaith yn cydnabod, er mor amharod, y gwirionedd hunan-amlwg y byddai cau’r ysgol yn cael effaith negyddol ar y gymuned, ac yn benodol ar yr iaith Gymraeg. Ni ellir mesur yr effaith ar yr iaith o gyfyngu’r ymarferiad i ddadansddiad ystadegol o gyfrwng yr addysg,iaith gartre’r plant, a nifer y gweithgareddau ffurfiol. Mae’r llywodraethwyr yn tystio’n hytrach i effaith lawer mwy sylfaenol o ran ffurfio agweddau yn y gymuned leol, yn cynnwys mewnfudwyr, tuag at y Gymraeg a theimlo perchnogaeth arni gan weld yr iaith yng nghyd-destun y gymuned ble maent yn byw.
Opsiwn 2 – Addysg Gyflawn ac Adnabod Bro
Yr ail swyddogaeth y gellid ei ychwanegu at Ysgol Abersoch, er mwyn cyfiawnhau’r buddsoddiad ychwanegol wrth gynnal yr ysgol, yw fel cynllun peilot ar gyfer addysg gyflawn. Unwaith eto, mae Ysgol Abersoch mewn sefyllfa unigryw i weithredu cynllun peilot fel “Ysgol Traeth” ac “Ysgol Llwybrau Gwledig”. Nid yn unig fod yr ysgol yn agos iawn at y traeth ac, mewn perthynas ag Ysgol Sarn Bach, at lwybrau gwledig y penrhyn, ond mae hefyd ymhlith y llywodraethwyr uchelgais i gyflwyno llawer o’r profiadau addysgol trwy astudio’r traeth a llwybrau gwledig, ac yn ieithyddol o ran dod allan o adeilad yr ysgol i fywyd ganol y pentre fel grym Cymreigio. Trwy bartneriaeth gyda llywodraethwyr a phwyllgor cyswllt lleol, nid yn unig y gellid cyfoethogi profiad addysgol y disgyblion mewn modd unigryw, ond hefyd gweithredu fel cynllun peilot y gellid efelychu elfennau ohon wedyn mewn ysgolion eraill hefyd. Dyma ail ran agenda ADFEDDIANNU – sef adfer perthynas rhwng ysgol a’r gymuned o’i chwmpas fel y gall yr nysgol fod yn gyfrwng i hyrwyddo dealltwriaeth amgylcheddol yn ogystal â diwylliannol, ymhlith y disgyblion ac yn y gymuned.
Gellid cyflawni’r “gwerth ychwanegol” hwn (Opsiynau 1 & 2) nail ai yng nghyd-destun ysgol annibynnol yn Abersoch neu fel rhan o drefn gydweithredol rhwng ysgolion.
Opsiwn 3 – Modelau Cydweithio ag ysgolion Cyfagos
Mae’r ddogfen yn astudio rhai modelau o ffederasiwn, ac yn casglu na byddent yn ateb heriau sylfaenol fel nifer isel o ddisgyblion. Ond mae nifer o fodelau eraill yn bosibl na roddwyd sylw iddynt. Ar y cyd gydag opsiwn (1) a/neu (2) uchod, gallent fod yn ddatrysiad o ran llawn ddefnyddio capasiti.
-
Ysgol Aml-safle - Nid ystyriwyd y model o ysgol aml-safle rhwng Llanbedrog ac Abersoch ac o bosibl Sarn Bach. O safbwynt ystadegol, byddai hyn yn gwneud synnwyr gan fod Ysgol Llanbedrog yn orlawn a chapasiti dros ben yn Abersoch dair milltir i ffwrdd – sef yr hyn a roddir gan y ddogfen ymgynghorol fel gwendid ffurfio ffederasiwn. Potensial o ran Un ysgol integredig ar 2 safle fyddai’r model hwn, sy’n wahanol i ffederasiwn lle bydd gwahanol ysgolion yn cadw eu hunaniaeth dan un bwrdd llywodraethwyr cyfunol. Does dim sicrwydd mai dyma’r model a fyddai’n gweddu orau i’r amgylchiadau lleol, ond dylsid fod wedi ei ystyried cyn cynnig y datrysiad difrifol o amddifadu Abersoch o unrhyw sefydliad addysgol o gwbl.
-
Ffederasiwn o nifer o ysgolion – Yn y ddogfen trafodir yn unig sefydlu ffederasiwn ag un ysgol arall tra bo’r Rheoliadau ar Ffedereiddio’n caniatau i nifer o ysgolion ffurfio ffederasiwn. Gallai fod ffederasiwn rhwng Ysgolion Llanbedrog, Abersoch a Sarn Bach. Er na allai’r un Bwrdd Llywodraethwyr Ffederal hefyd reoli Ysgol Foel Gron (oherwydd ei statws gwirfoddol), gallsai’r ffederasiwn ffurfiol gydweithio (mewn trefniant a elwir weithiau yn “ffederasiwn medal”) gydag Ysgol Foel Gron at drefniadau a gweithgareddau arbennig. Byddai manteision (ac arbedion) potensial o ran gweinyddiaeth ac arweinyddiaeth integredig, potensial o ran defnyddio capasiti at ddibenion y ffederasiwn cyfan, a photensial ehangu profiad addysgol trwy fod gwahanol ysgolion yn canolbwyntio ar wahanol weithgareddau. Mae Cronfa Ysgolion Bach a Gwledig y Llywodraeth yn golygu fel arfer fod swm ar gael i gwrdd ag unrhyw gostau ychwanegol (e.e. teithio at ysgol arall i ymuno mewn gweithgarwch) sy’n ehangu profiadau addysgol a chymdeithasol ffederasiwn.
-
FFEDERASIWN “ENLLI” – Gallai ffederasiwn fod ar ffurf mwy uchelgeisiol fyth e.e. gellid sefydlu ffurf blaengar newydd ar addysg yn yr ardal trwy fod yr holl ysgolion yn ffedereidddio – Llanbedrog, Abersoch, Sarn Bach, Pontygof a Chrud y Wern (gan gydweithio’n anffurfiol gydag Ysgol Foel Gron). Mae’r Rheoliadau ar Ffedereiddio’n caniatau fod ffederasiwn yn cynnwys hefyd ysgol uwchradd. Byddai cynnwys Ysgol Botwnnog mewn federasiwn felly’n cryfhau datblygiad trwodd o lefel cynradd i uwchradd, ac yn cadarnhau addysg y fro mewn modd blaengar iawn a fyddai’n sicr o ddenu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru oherwydd y gwersi y gellid eu dysgu. Yn ogystal ag ehangu profiadau, byddai potensial amlwg hefyd ar gyfer rhesymoli costau gweinyddol a chreu strwythurau integredig.
Gallai unrhyw un o’r opsiynau cydweithio (nad ydynt hyd yma wedi derbyn sylw) hefyd cael eu cyfuno gydag opsiwn (1) neu/a (2) ar gyfer Ysgol Abersoch ei hun fel y byddai natur unigryw yr ysgol honno o fudd ehangach i ddisgyblion y fro.
CASGLIAD
Credwn fod y nodion hyn yn arwain at gasgliad anochel. Yn enwedig o ystyried amgylchiadau’r pandemig sydd wedi cyfyngu ar drafodaeth, byddai glynu at ddyddiad o Fedi 2021 i weithredu unrhyw newid yn gwbl afresymol. Ni buasai’r opsiynau wedi cael eu gwintyllu’n iawn, ac ni byddai mis o rybudd i rieni am y drefn newydd yn deg o gwbl. Galwn felly ar Gabinet Cyngor Gwynedd, wrth ystyried yr adroddiad ar yr ymatebion i ymgynghori, i oedi’r broses tan fis Tachwedd er mwyn caniatau amser i ysgolion a chymunedau’r ardal geisio ffordd gytûn ymlaen sy’n bodloni amcanion yr Awdurdod. Byddai proses wedyn yn mynd trwodd yn gyflym yn niwedd 2021 naill ai oherwydd fod cytundeb neu oherwydd fod pob opsiwn wedi ei wintyllu’n llwyr, a gellid gweithredu unrhyw newid yn ddiogle at Fedi 2022.