![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/jillevans_mawsr.jpg)
'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).
Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.