Yr hawl i ofal trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynnydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru parthed y Gymraeg.

Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd ein grŵp iechyd:
 

“Rydym yn falch o weld bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymateb i bryderon a diwygio ei strategaeth er mwyn ceisio datblygu gweithlu a all ddiwallu anghenion iechyd a gofal pobl drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rydym fel Cymdeithas yn croesawu’r gwelliannau ac yn enwedig y bwriad i ‘weithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod addysg yn diwallu anghenion y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cynnwys rhaglenni a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg’. Amserol felly yw’r ffaith bod eu tendr ar gyfer y colegau darparwyr hyfforddiant ar fin cael ei gyhoeddi. Rhaid i’r tendr osod targedau clir ar gyfer recriwtio nifer digonol o siaradwyr Cymraeg o fewn y rhaglenni proffesiynol er mwyn diwallu anghenion y sector.

“Mae gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawl, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda’r sector iechyd a gosod targedau statudol i gyflenwi’r gweithlu sydd ei angen i wireddu’r hawl hwnnw.”