Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cylchlythyru pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin gan ofyn iddynt fynegi i OFCOM eu pryder fod Radio Sir Gâr wedi cefnu ar eu haddewid i gynnal gwasanaeth dwyieithog.
Yn eu cylchlythyr, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi am y tro cyntaf destun llawn y gytundeb (wedi atodi) a dderbyniodd Radio Sir Gâr wrth gael yr hawl i ddarlledu, sef yr “Addewid o ran Cyflwyno Gwasanaeth” (Promise of Performance), ymhlith yr addewidion y mae Radio Sir Gâr wedi'u torri y mae'r ymrwymiad i ddefnyddio'r Gymraeg drwy'r dydd wrth gyhoeddi;· tywydd· cynllunio rhannu ceir· swyddi sydd ar gael· gwasanaeth busnes· amaethyddiaeth· ysgol yr wythnos· clwb penblwyddDywed Heledd Gwyndaf (trefnydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin);“Mae'r rhestr yn ddi-derfyn o addewidion sydd wedi'u torri. Y gwir yw fod y gwasanaeth yn ystod y dydd bron yn gyfangwbl Saesneg heblaw am ambell hysbyseb amdanynt eu hunain – a hynny yn y Sir gyda'r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae'r sefyllfa ar Scarlet FM yn waeth fyth. Mae gwir angen edrych ar Radio Sir Benfro hefyd, ble mae'r Cymry Cymraeg yn y sir honno yn cael eu hanwybyddu yn llwyr!"“Fel mudiad gyda llawer o aelodau ifainc, eu prif feirniadaeth hwy yw eu bod wedi torri eu haddewid i gynhyrchu rhaglen reolaidd yn cyflwyno cerddoriaeth leol, a'm bod yn defnyddio recordiau Saesneg yn unig yn ystod eu rhaglen nosweithiol honedig Gymraeg – yn groes i'w cytundeb sy'n galw am ddarlledu artistiaid Cymraeg.""Mae Radio Sir Gâr yn gwbl sarhaus wrth ein diwylliant ac mae'n bryd i'w trwydded gael ei dynnu oddi arnynt am dorr-addewid. Ein gobaith yw y bydd Cynghorau lleol a llu o fudiadau yn pwyso ar OFCOM i'w disgyblu."Darllenwch mwy ar wefan y South Wales Evening PostDarllenwch mwy ar wefan y Carmarthen JournalDarllenwch mwy ar wefan BBC Cymru'r BydDarllenwch Mwy ar wefan y Western MailGorsaf Radio'n bradychu pobl Sir Gâr - 13 Medi 2004Rhyddhau ar fechniaeth heb gyhuddiad - 25 Gorffenaf 2004“We never have played Welsh music and we never will!” - 24 Gorffenaf 2004Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando! - 13 Mehefin 2004