Isod mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad Cyngor Ynys Môn ar ad-drefnu ysgolion ardal Llangefni. I lawrlwytho fel dogfen pdf pwyswch yma
GWRTHWYNEBIAD I'R CYNNIG YN BENODOL I GAU YSGOLION HENBLAS A BODFFORDD
DIFFYGION YN Y BROSES YMGYNGHORI
(1) Mae'r cynnig i gau Ysgol Henblas - y dechreuwyd ei ystyried wedi 18.12.17 ac a gyhoeddwyd ar 5.2.18 gan y Pennaeth Dysgu "mewn ymgynghoriad gyda'r Prif Weithredwr a'r Deilydd Portffolio Dysgu Gydol Oes" - yn gynnig newydd a chwbl wahanol i'r cynnig blaenorol, ac felly dylsid fod wedi cynnal ymgynghoriad anstatudol a thrafodaethau anffurfiol yn gyntaf gyda'r gymuned leol i weld a oedd unrhyw gytundeb ynghylch defnyddio "cyllid newydd" yn y modd hwn. Yn ôl y Côd presennol o ran Trefniadaeth Ysgolion, yr arfer da yw ymgynghori'an anstatudol CYN gosod cynnig ffurfiol ar gyfer ymgynghoriad statudol. Ni chredwn y byddai unrhyw lys yn caniatau fod swyddogion y Cyngor Sir wedi dilyn proses gywir wrth wneud y cynnig hwn.
(2) Yr un fath, y mae'r cynnig newydd i anfon disgyblion Ysgol Bodffordd at ysgol 450 o blant, ac mae'r cynnydd o dua 30% ym maint yr ysgol arfaethedig newydd yn ddigon i ystyried hwn yn gynnig o'r newydd ac unwaith eto fe ddylsid fod wedi cychwyn o'r newydd yn hytrach na rhuthro penderfyniad gan 3 unigolyn (hyd yn oed os oedd grymoedd dirprwyedig ganddynt).
(3) Dylai swyddogion y Cyngor fod yn ymwybodol mai Ysgol Bodffordd yw rhif 1, ac Ysgol Henblas yw rhif 9, ar restr drafft o agos at 200 o ysgolion gwledig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Yn ôl canllawiau drafft newydd ar gyfer Côd Trefniadaeth Ysgolion (i ddisodli'r un presennol), byddai rhagdyb O BLAID cadw yr ysgolion hyn ar agor, a byddai'n rhaid i unrhyw gynnig i'w cau ddangos rhesymau eithriadol a dangos eu bod wedi archwilio'n llawn pob opsiwn amgen, gan gyfeirio'n arbennig at greu ffederasiynau i ffurfio unedau addysgol cryf. Mae'r holl ganllawiau hyn i'w gweld yn y côd trefniadaeth ysgolion presennol (2013), ond mae gosod y ddwy ysgol ar y rhestr arbennig dan y côd newydd yn codi'r trothwy. Yn dilyn ymgynghoriad yn 2017, disgwylir cyhoeddiad terfynol gan y Llywodraeth ar y Côd newydd ym mis Mehefin ac i'r drefn newydd ddod i rym fis Hydref. Gan fod Cyngor Môn yn gwybod yn iawn fod hyn ar y gweill, byddai'n warthus rhuthro i benderfynu cau'r ysgolion ychydig wythnosau cyn derbyn cadarnhad o'r drefn newydd.
NI ELLID CYFIAWNHAU CYNNIG I GAU'R DDWY YSGOL O DAN Y CÔD TREFNIADAETH PRESENNOL
(1) Mae'r "Rhesymau dros newid" a restrir ar dudalen 10, ac a ailadroddir yn Atodiad A (tud 13-16) yn ymddangos yn ymarferiad "cut & paste" a ddefnyddir yn gyffredinol gan Gyngor Ynys Môn ac yn gwbl amherthnasol i sefyllfaoedd ysgolion Bodffordd a Henblas. Cymerwn y rhesymau fesul un.
(2) Eitha amherthnasol yw'r paragraff arferol am "leihau nifer y lleoedd dros ben" yn yr achosion hyn. Mae Ysgol Bodffordd yn llawn, ac mae'r lleoedd gwag yn Henblas yn llai na'r 15% a roddir fel achos pryder. Trwy'r cylch o ysgolion (perthnasol i un o'n hargymhellion isod), mae niferoedd disgyblion yn codi dros y blynyddoedd nesaf. Dywedir fod nifer y disgyblion yn Ysgol Henblas wedi disgyn ryw fymryn, ond mae'r cyfanswm yn dal yn uwch yn awr nag or oedd naw mlynedd yn ol. Ar ben hyn, y mae canllawiau drafft newydd y llywodraeth yn datgan na ddylai Awdurdodau Lleol osod y fath bwyslais yn y dyfodol ar leoedd gwag. Mae "lleihau'r amrywiad mewn cost y disgybl" a roddir fel nod yn y broses (tud 5) yn groes i ysbryd y canllawiau newydd ac yn groes i gyfiawnder naturiol. Wrth gwrs y bydd gwasanaethau gwledig yn costio'n fwy y pen na gwasanaethau trefol, ond mae llai ohonynt ac felly mae cyfartaledd yn y darlun mawr. A fyddai ymgais cyfatebol i leihau'r amrywiad mewn gwariant y pen ar ganolfannau hamdden rhwng plant y trefi a phlant y pentrefi trwy adeiladu cyfleustra hamdden ym mhob pentre ?!
(3) O ran "materion ariannol", gan fod nifer o'r adeiladau mor ddiweddar â'r 1980au, mae'n rhesymol casglu mai rhatach fyddai gwario unrhyw gyllid ar uwchraddio'r adeiladau a chyfleusterau presennol yn hytrach nag adeiladu o'r newydd ysgol go fawr hyd at 450 o ddisgyblion a bod gyda 3 adeilad gwag o ganlyniad. Yn waeth na hyn, mae'r nodion yn y ddogfen ymgynghorol yn awgrymu fod swyddogion y llywodraeth wedi bod yn trafod gyda swyddogion y cyngor y posibiliad o gael hyd i bot o gyllid i adeiladu ysgol fawr newydd (a chau 3 ysgol) ar yr union adeg yn Rhagfyr 2017 ag yr oedd swyddogion eraill a adran addysg y llywodraeth yn trafod yr ymateb i'r canllawiau newydd i ddiogelu ysgolion fel Bodffordd a Henblas oedd ar y rhestr drafft o ysgolion gwledig. Holwn y cwsetwin a oedd y Gweinidog Addysg yn ymwybodol o'r trafodaethau hyn sy'n tanseilio braidd ei datganiadau cyhoeddus. Ar ben hyn, y mae'r adroddiad yn datgan mai cost y prosiect i'r Awdurdod Lleol fyddai dros £4.6miliwn - hyd yn oed os gellir gwerthu'r 3 safle presennol ac amddifadu'r cymunedau lleol ohonynt ; a bod yr arbedion refeniw yn £46,471 a chostau cludiant yn £64,000. Ac mae'r holl amcangyfrifon wedi'u gwneud heb wybod beth yn union fyddai safle ysgol newydd na'r union gostau ynghlwm wrtho. Byddai unrhyw Fwrdd Cyfarwyddwyr cwmni masnachol yn gwrthod cynnig o'r fath ac yn hytrach fuddsoddi swm ychydig yn fwy cymhedrol yn y safleoedd presennol gan eu gwarchod i'r cymunedau lleol ac osgoi trafferth ac ansicrwydd gorfod ceisio eu gwerthu.
(4) O ran "codi safonau", mae'n amlwg fod y rhieni'n fodlon iawn ar safon yr addysg, a dywed y nodion fod Ysgol Bodffordd wedi dod allan o gyfnod monitro gan Estyn. O ran profiadau ac adnoddau addysgol, does dim byd y gellid ei gyflawni mewn ysgol ganolog na ellid ei gyflawni trwy lywodraethu'r ysgolion fel ffederasiwn mewn uned addysgol gref.
(5) O ran "torri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol isel", mae'n amlwg fod cyfranogiad rhieni yn y broses addysgol yn elfen o bwys. Mae'r rhieni'n amlwg yn teimlo perchnogaeth ar yr ysgolion yn eu cymunedau a byddai hyn yn cael ei golli mewn "ffatri addysg" canolog.
(6) O ran "capasiti arweinyddiaeth a rheolaeth", mae arweinyddiaeth Ysgol Henblas wedi'i threfnu a does dim dadansoddi o fodel llywodraethu trwy Fwrdd Llywodraethol ffederal.
DIFFYG YSTYRIAETH O OPSIYNAU ERAILL
(1) Mae hyn yn ofyniad o dan y côd presennol (2013) ond mae swyddogion fel arfer wedi trein yn fel ymarferiad "ticflwch" gan ddefndyddio'r un frawddeg ym mhob achos i wrthod opsiynau amgen. O dan y côd newydd (o'i gadarnhau ym Mehefin), rhaid fydd dadansoddi'n iawn pob opsiwn arall CYN cynnig cau ysgol. Mae'r ddogfen yn methu o dan yr hen drefn, heb sôn am y drefn newydd.
(2) Rhestrir (tudalen 3/4) "21 o opsiynau" a ddaeth i'r amlwg mewn ymgynghoriad anffurfiol blaenorol (yr hydref 2016). Ond does dim ymdriniaeth â dim o'r opsiynau hyn - dim ond brawddeg gwta, ac weithiau gyda gwybodaeth anghywir e.e. "Opsiwn xx" "Os cyfunir Ysgol Corn Hir a Bodffordd, be am ffedereiddio Ysgol Henblas efo hi" a'r sylw yw "Byddai hon yn ysgol i tua 450 o blant ar 2 safle". Mae'r sylw yn eitha di-bwrpas gan nad oes unrhyw ddadansoddiad o fanteision/anfanteision cynnig o'r fath, ond mae hefyd yn ffeithiol anghywir. Mae'r swyddog a wnaeth y sylw wedi cymysgu rhwng "ysgol aml-safle" (lle caeir ysgolion presennol ac ailagorior un ysgol ar 2 neu fwy o safleoedd) a "ffederasiwn" (lle cedwir yr ysgolion ond o dan un bwrdd llywodraethol ffederal). Felly, yn ôl yr opsiwn hwn dwy ysgol ffedereiddiedig ar 2 safle fyddai, nid un ysgol. Yr un fath petai ffederasiwn o ysgolion Corn Hir, Bodffordd a Henblas, yna tair ysgol ffedereiddiedig ar 3 safle fyddai.
(3) Yn bennaf oll, nid yw'r Cyngor wedi ystyried o gwbl opsiynau creu ysgol newydd aml-safle neu ffederasiwn o'r cyfan neu rai o'r ysgolion dan sylw neu gyda rhai eraill hefyd. Yr unig gyfeiriad at y gair "ffederasiwn" yn yr holl ddogfen yw cyfeiriad cyfeiliornus at un posibiliad mewn ymghynghoriad blaenorol. Nid yw'n ddigonol i ddweud nad oedd eraill wedi codi'r holl opsiynau mewn ymgynghoriad anffurfiol yn y gorffennol. Cyfrifoldeb yr Awdurdod yw gwerthuso pob opsiwn arall. Hyd yn oed o dan y côd trefniadaeth presennol (2013), dywedir fod yn rhaid i Awdurdod Lleol ystyried pob opsiwn arall, yn cynnwys yn arbennig ffedereiddio, CYN cynnig cau ysgol a'r unig eithriad yw heblaw am ei bod yn amlwg o'r cychwyn na byddai hwn yn ddatrysiad addas. Yn y gorffennol mae Awdurdodau fel Môn felly wedi ticio'r blwch trwy ddefnyddio'r frawddeg safonol "cut & paste" na byddai ffederasiwn yn datrys problem lleoedd dros ben, diffygion ariannol difrifol a chyflwr gwael adeiladau. Gan nad yw'r ffactorau hyn o bwys canolog yn achos Bodffordd a Henblas, mae'r ddogfen wedi diystyru ffederasiwn yn gyfangwbl. Mae'r diffyg hwn yn gwneud yr ymgynghoriad yn annilys o dan hyd yn oed yr hen gôd trefniadaeth, ac mae'r côd newydd yn mynnu sylw arbennig i fodel ffederasiynau. Yn gyfredinol, mae ffederasiynau'n cynnig holl fanteision addysgol ysgol ganolog trwy gronni adnoddau materol a dynol at ddefnydd yr holl ffederasiwn yn lle dyblygu darpariaeth ac amser, yn cynnig arbedion gweinyddol ac yn cyflawni hyn oll tra'n cadw addysg oddifewn y cymunedau presennol ac heb ansicrwydd codi adeilad mawr newydd na gwerthu adeiladau. Mae ysgol aml-safle'n fodel gwahanol gyda mantais strwythur staffio mwy integredig a phosibiliad arbedion pellach, ond yn cynnig llai o sicrwydd amser hir i gymunedau gan nad oes raid mynd trwy'r un broses statudol i gau safle ysgol. Dylsai'r Awdurdod wedi ystyried opsiynau creu naill ai ffederasiwn neu ysgol aml-safle o 2 neu 3 o'r ysgolion neu hyd yn oed o'r 5 ysgol gynradd yn ardal Llangefni. Mae rheoliadau ffedereiddio (2012, a'r diwygiad yn 2014 i roi mwy o rym i Awdurdod Lleol i gychwyn proses) yn caniatau hefyd bosibiliad cyffrous creu Ffederasiwn yr Ysgol Uwchradd a'r 5 ysgol gynradd yn yr ardal. Fel arfer 5 ysgol yw'r uchafswm ar gyfer ffederasiwn, ond bod modd gwneud cais am nifer mwy a gallesid fod wedi cyfyngu'r ffederasiwn i 5 trwy wneud Ysgolion Y Graig a Corn Hir yn un ysgol 2-safle. Byddai Ffederasiwn Cefni fel hyn yn uned addysgol gref yn hybu rahnnu adnoddau a chostau a dilyniant o'r cynradd trwodd at oed uwchradd, tra'n cadw addysg oddifewn i'r cymunedau a chefnogaeth rhieni. Nis ystyriwyd o gwbl ac mae'r holl ymgynghoriad yn annilys.
(4) Ar dudalennau 31-33 fe welwn y tabl sy'n cynnwys y gwahanol ffactorau perthnasol i'r cynnig y mae'r swyddogion yn ei ffafrio. Fel mae'n digwydd, ni allant gael hyd i unrhyw anfanteision i'r cynnig o gwbl - gobeithio i ni eu cynorthwyo yn hyn o beth !!
EFFAITH CYNIGION AR GYMUNEDAU CYMRAEG
(1) Mae gan Gyngor Ynys Môn gyfrifoldebau ehangach nag addysg yn unig, ac mae gwarchod rhai o gymunedau Cymreiciaf ein gwlad yn un o'r rhain. Hyd y gwyddys, ni wnaed astudiaethau effaith ar y Gymraeg nac ar y cymunedau o weithredu'r cynnig hwn. Nid oes ond cyfeiriad ar ddiwedd un tabl. Mae'r côd presennol yn mynnu fod cyflawni astudiaethau ystyrlon o'r fath cyn y galli Pwyllgor Gwaith gymryd unrhyw benderfyniad a bod cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau am yr astudiaethau.
(2) Nid yw'r effaith ar y Gymraeg yn gyfyngedig i gyfrwng yr addysg. Dywedir fod rhwng 86%-88% o blant ysgolion Bodffordd a Henblas yn dod o aelwydydd Cymraeg, a dyma felly (Bodffordd ac ardal Llangristiolus) rhai o gymunedau Cymreiciaf ein gwlad. Fe wyddys fod teuluoedd â phlant yn llai tebyg o ymgartrefu (neu ddychwelyd i) mewn cymunedau heb ysgol. Mae'r cymunedau 'n heneiddio a daw mewnlifiad o bobl wedi ymddeol a chymudwyr i lenwi'r eiddo gwag a seisnigir y cymunedau
(3) Nid yw swyddogion ond yn ystyried yr hyn y gallant ei gyfri. Nid yw gwir werth ysgol i gymuned i'w gyfri yn ôl faint yn union o gyufarfodydd canghennau mudiadau sy'n digwydd yn yr ysgol. Mae cymdeithas organig yn datblygu trwy fod oedolion ifainc yn ymgasglu i ddanfon a nol eu plant ac i rannu profiadau wrth giât ysgol ac wrth ymwneud â'r ysgol.
Am y rhesymau hyn oll, mae Cymdeithas yr Iaith yn ganolog yn gwrthwynebu'r cynnig sydd yn destun i'r ymgynghoriad hwn i gau ysgolion Bodffordd a Henblas. Anogwn y Pwyllgor Gwaith yn yr achos hwn, fel yn achos yr ysgolion eraill, i ofyn i'r swyddogion fynd at y cymunedau perthnasol yn nhymor yr haf - gan ystyried y canllawiau newydd - a gofyn am gynigion pellach. O'm hadnabyddiaeth o'r rhieni a'r cymunedau hyn, sy'n teimlo i'r byw dros addysg eu plant a pharhad eu cymunedau, byddant yn barod i drafod yn gadarnhaol gyda swyddogion sy'n dod atynt gyda meddwl agored. Byddem ninnau fel cymdeithas hefyd yn barod i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth gadarnhaol. Cydnabyddwn hefyd fod yr Awdurdod lleol dan bwysau mawr o du llywodraeth ar y naill law a dyheadau cymunedau lleol Môn ar y law arall, a dymunwn yn dda i chi.
Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith