Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Abersoch: ymateb Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith

Mae Grwp Ymgyrch Addysg yn datgan ei wrthwynebiad i'r Rhybudd Statudol a gyhoeddwyd gan Gyngor Gwynedd i gau Ysgol Abersoch.

Cydnabyddwn fod y Cyngor wedi gwneud gwaith llawer mwy cydwybodol nag eiddo Awdurdodau eraill yn paratoi'r Papur Cynnig gwreiddiol ac wrth drin y gwrthwynebiadau gan eu rhestru'n gydwybodol. Atodaf ein hymateb i'r cynnig gwreiddiol sydd, yn ein tŷb ni, yn dal yn berthnasol ac yn cynnwys dadleuon a chynigion nad ydynt wedi cael eu hateb yn llawn. Yn statudol, ni raid i chwi ystyried ond gwrthwynebiadau a godir yn awr mewn ymateb i'r Rhybudd i gau'r ysgol., ac yr ydych dan rwymedigaeth (Côd Trefniadaeth Ysgolion) i ystyried pob gwrthwynebiad "gyda meddwl agored". Hyd yma, er yr holl waith coladu manwl, nid oes unrhyw arwydd o ystyried gyda meddwl agored. Nid oes yr un gair (o blith y degau o filoedd o eiriau o ymatebion) i'w weld wedi peri unrhyw newid safbwynt o gwbl i swyddogion y Cyngor, ac mae lle felly i'r cyhoedd gwestiynu dilysrwydd yr ymgynghoriad. Nid ailadroddwn ein cynigion amgen, ond yn hytrach gofyn i chwi eu hystyried o'r newydd gyda meddwl agored yng ngoleuni'r tri phwynt canlynol sy'n ffurfio sail ein gwrthwynebiad i'r Rhybudd Statudol 

1) Yr ydym yn falch fod y swyddogion wedi cynnwys nifer o'n hopsiynau amgen fel rhai gwerth ystyriaeth - sef

* Defnyddio capasiti ychwanegol yn yr ysgol (yn ystod y tymor, ond yn fwy penodol mewn gwyliau haf a phenwythnosau) fel Canolfan Ddiwylliannol Gymraeg. Gallai fod yn hunan-gynhaliolyn ariannol gan fanteisio ar safle'r ysgol yng nghanol y pentref ac yn ymyl y neuadd i gynnig profiad o dwristiaeth dduwylliannol. Gallai hyn gyfrannu at amcanion eraill mewn polisi cyhoeddus fel magu twristiaeth fwy cynaladwy a pharchus o'r gymuned leol

* Ysgol aml-safle gan fanteisio ar gapasiti dros ben mewn un lleoliad a chapasiti llawn mewn lleoliad arall.

* Ffederasiwn gyda nifer o ysgolion cyfagos gan resymoli'r defnydd o adnoddau ac yn ehangu'r profiad addysgol

* Federasiwn blaengar yn cynnwys yr Ysgol Uwchradd a fyddai'n pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd.

* Ysgol Traeth a Natur

Mae'r opsiynau amgen hyn oll wedi eu rhestru'n gydwybodol gan swyddogion, ond tenau iawn yw'r rhesymau dros eu gwrthod. 

Mae rhai ffeithiau'n anghywir e.e.1 NID yw ffederasiwn yn llwyr ddibynnol ar gydweithrediad parod ysgolion. Mae'r newidiadau a wnaed yn 2014 i'r Rheoliadau ar Ffederasiynau'n rhoi grymoedd i Awdurdodau Lleol i yrru'r broses e.e.2 - NID yw'n wir i ddweud na byddai model ysgol aml-safle yn effeithio ar faint dosbarth. Gallai llywodraethwyr ysgol aml-safle ddefnyddio'r safleoedd  a threfnu dosbarthiadau ynddynt yn ôl yr hyn a welent yn dda. e.e.3- Awgrymir y gallai creu ffederasiwn fod yn ddrutach gan y byddai pob ysgol mewn ffederasiwn ar eu mantais. Ond ers blynyddoedd y mae cyllid yn dod gan lywodraeth ganolog yn benodol i gefnogi ffederasiynau ac ysgolion gwledig, a hyderwn fod y gyllid yn cael ei ddefnyddio at y dibenion cywir.

Nid gwneud cymwynas yn unig ag Ysgol Abersoch fyddai sefydlu trefniant cydweithio o'r fath. Mae'r staff a'r llywodraethwyr yn Ysgol Abersoch wedi datblygu dulliau blaengar o addysgu'r plant lleiaf i feistroli cysyniadau pwysig trwy astudio eu cynefin naturiol. Mewn unrhyw fodel uchod o gydweithio, gallai'r cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn, ac ehangu'rprofiad addysgol, fod ar gael i HOLL blant ysgolion yr ardal.

Mae'r opsiynau amgen hyn wedi cael eu gwrthod am resymau generig ac ystrydebol braidd yn yr ymateb gan swyddogion i'r ymgynghoriad. FAN LEIAF, haeddant drafodaeth drylwyr a chyda'r holl ran-ddeiliaid. Ac mae cyfle i hyn. Fel y dangoson ni yn ein hymateb yn yr atodiad, y mae ffenest gyfle. Mae'r rhybudd presennol yn cynnig y cam anarferol o gau Ysgol Abersoch ar ganol blwyddyn academaidd - Rhagfyr 2021. Gellid yn rhwydd cael caniatad y Gweinidog Addysg i beidio â gwethredu'n syth ar y Rhybudd yn benodol er mwyn trafod yr opsiynau amgen gyda'r rhan-ddeiliaid y tymor nesaf. Ar sail hynny, yn hymor y gwanwyn, gellid naill ai (1) rhjoi cynng newid a gwell, gyda chefnogaeth leol, gerbron neu (2) Os na byddai'r trafodaethau dwys ar opsiynau amgen yn arwain at gonsensws, byddai dal cyfle i ail-gyhoeddi Rhybudd i gau'r ysgol ar ddiwedd yr un fowyddyn academaidd yng Ngorffennaf 2022.. Ni allai neb honni mewn difri fod yr opsiynau amgen - a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad (yng ngeiriau'r swyddogion) - wedi cael eu trafod yn drwyadl trwy ychydig o baragraffau gan y swyddogion yn unig. Byddai'r tymor o drafodaeth estynedig yn unswydd ar gyfer yr opsiynau amgen. Heb fod hynny'n digwydd, rhaid casglu nad yw'r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd i astudio pob opsiwn amgen. Dyma brif sail ein gwrthwynebiad.

2) Y mae casgliadau'r swyddogion i'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn seiliedig ar ddadleuon generig ac ystrydebol, heb sail tystiolaeth, ac heb fod yn benodol i achos Abersoch - yn groes i'r ddyletswydd sydd gan y Cyngor i werthuso'r sefyllfa yn ôl amgylchiadau penodol yr ysgol dan sylw

* Gosodir fel ffaith fod dosbarthiadau cymysg-oedran yn anfantais addysgol. Mae'r gwir sefyllfa'n llawer mwy cymhleth. Wrth gwrs fod creu gaith ychwanegol i athrawon, ond mae gwerth addysgol i'r mentora rhwng disgyblionhŷn ac iau, ac mae strategaethau mewn lle i ddosbarth gyfan astudio thema, ond ar efelau sy'n gweddu i'r disgyblion unigol. Ni chynigir unrhyw dystiolaeth fod ysgolion sydd â dosbarthiadau cymysg-oedran yn cael canlyniadau addysgol gwaeth nag ysgolion trefol mwy o faint. Gallesid gwneud astudiaeth o gyrhaeddiadau cymharol disgyblion mewn addysg uwchradd, ond ni chynigir unrhyw dystiolaeth, dim ond gosod y safbwynt fel ffaith. Fle prawf o wacter y ddadl, mae'n debyg y byddai'r disgyblion yn cael eu cyfeirio at ysgol arall lle byddai hefyd dosbarthiadau cymysg-oedran, eto gyda chanlyniadau digon boddhaol.

* Gwneir defnydd helaeth o'r "gost yn ôl y disgybl", ond dyma eto cysyniad ffaeledig. Fel arfer, mewn ysgol fach lle bo niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, bydd y gost ddamcaniaethol yn ôl y disgybl yn mynd i fyny ac i lawr yn gyfatebol, ond bydd yr arian real sy'n cael ei wario yn aros yr un fath.

* Arwynebol tu hwnt yw'r astudiaetheffaith o gau'r ysgol ar y Gymraeg ac ar y gymuned. Cyfyngor yr astudiaeth i unrhyw effaith ar gyfrwng addysg y plant (wrth gwrs nad yw hynny'n newid gan mai mynd at ysgol Gymraeg arall y maent, a chyfyngor yr astudiaeth o'r effaith ar y gymuned i gyfarfodydd cymdeithasol ffurfiol, yn hytrach na gwead organig cymuned. Yr ysgol yw canolfan Gymraeg Abersoch lle mae'r iaith a'r gymuned leol dan bwysau mawr - yn rhannol oherwydd diffygion Llywodraeth Leol a Chanolg dros y blynyddoedd i'w gwarchod. O dynnu'r ganolfan Gymraeg yna, mae'n hunan-amlwg y daw effaith niweidiol iawn i'r gymuned ac i'r iaith.

* Mae'r ffaith fod yr ymateb i'r cynnig a fu yn destun ymgynghoriad mor lethol o wrthwynebus yn rheswm i swyddogion o leiaf ailystyried a gweld llwyodraethwyr ac aelodau cydwybodol o'r gymuned leol yn bartneriaid, nid fel gelynion i'w trechu.

3) Byddai cau Ysgol Abersoch yn anfon allan arwydd anghywir a damniol o ran amcanion corfforaethol eraill y Cyngor - o ran y Gymraeg, o ran meithrin gofal am yr amgylchedd ac o ran gwrando ar y cyhoedd. Byddai'n rhoi'r argraff fod Cyngior Gwynedd wedi "rhoi i fyny" ar gymuned Abersoch, a dyna gychwyn llethr llithrig iawn o ran dyfodol ein cymunedau Cymraeg sy'n disgwyl arweiniad gan y Cyngor.

Ffred Ffransis

ar ran Grwp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith - 21/7/21

Darllenwch ymateb wreiddiol Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad isod:

AtodiadMaint
8.2.21-Ymateb Grwp Addysg i'r Ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Abersoch.pdf80.38 KB