Cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "rhagweladwy" wrth gynnig cau Ysgol Gynradd Abersoch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.

Wrth alw ar aelodau'r Cabinet i wrthod y cynnig, ac yn hytrach i roi gobaith newydd i gymuned Abersoch yn rhan o agenda "Adfeddiannu Cymunedau", dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis:

"Yn anffodus, mae'r cynnig gan y swyddogion i lynu at eu penderfyniad i gau Ysgol Abersoch yn gwbl ragweladwy, gan na fu hyder gan y gymuned leol y byddent byth yn newid unrhyw beth o ganlyniad i ymgynghoriad. A bod yn onest, talwn deyrnged i swyddogion am wneud astudiaeth eithaf manwl, ac am roi sylw arbennig i opsiynau amgen a godwyd gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill yn ystod yr ymgynghoriad, fel creu ffederasiwn o ysgolion cynradd y fro neu ffederasiwn cryf o'r ysgol uwchradd ac ysgolion cynradd y penrhyn, neu hyd yn oed ysgol aml-safle. Awgrymwyd hefyd ddefnydd ychwanegol i rannau o'r adeilad tra'n cynnal ysgol, fel Canolfan Ddiwylliannol a chyfleusterau teuluol, ac hefyd weithgarwch maes i fanteisio ar y safle wrth y traeth ac yng nghanol y pentre. Fodd bynnag, di-fflach iawn fu'r dadansoddiad terfynol o werth yr opsiynau creadigol hyn, a defnyddiwyd dull ‘copy & paste’ i'w gwrthod.”

Ychwanegodd:

"Yn eu dadansoddiad cul, dywed y swyddogion nad yw'r un o'r cynigion amgen yn datrys problemau'r nifer bach o ddisgyblion a'r gost ganlynol y disgybl o ddarparu addysg. Derbyniwn fod y nifer yn arbennig o isel, yn bennaf oherwydd fod yn rhaid i blant ymadael â'r ysgol yn 8 oed ac oherwydd fod diffyg polisiau tai a chynllunio, a diffyg datblygu economaidd cytbwys wedi golygu mai ychydig o drigolion ifainc parhaol sydd yn y pentref. Nid yw'n deg fod y disgyblion a'u rhieni'n talu'r pris am y mathiannau hyn mewn polisi cyhoeddus, a dylai'r Cyngor yn hytrach ddefnyddio safle ac adnodau pwrpasol yr ysgol fel rhan o agenda ‘Adfeddiannu’ i roi gobaith newydd i'r gymuned, yn hytrach na’u gwrthod. Mae cydweithrediad ag ysgolion eraill yn rhoi cyfleon amlwg i gynyddu niferoedd mewn dosbarthiadau, yn enwedig gan fod ysgol gyfagos yn orlawn. Gall llywodraethwyr Abersoch hefyd fod yn bartneriaid parod mewn prosiect i ehangu profiad addysgol holl ddisgyblion y fro trwy eu syniadau arloesol am ddatblygu ‘Ysgol Traeth a Natur’ ar safle Abersoch i wasanaethu pawb."

"Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr fod ysgol yn cau ar ganol blwyddyn academaidd. Yn lle rhoi stamp o gymeradwyaeth ragweladwy ar y cynnig gwreiddiol i gau'r ysgol, gofynnwn i aelodau'r Cabinet ddefnyddio tymor yr hydref i drafod yn greadigol gyda llywodraethwyr a rhieni eu syniadau am ddyfodol yr ysgol a'r gymuned cyn penderfynu'n derfynol beth fydd tynged y disgyblion ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol a fydd yn cychwyn ym Medi 2022."