Beth yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg?
Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
- Ydych chi erioed wedi profi anhawster wrth geisio cael gwasanaeth Gymraeg?
- Cael eich trin yn amharchus wrth siarad Cymraeg?
- Cael trafferth cael mynediad i addysg Gymraeg i chi neu’ch plant?
Cymdeithas o bobol yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd eisiau sicrhau cyfle cyfartal i’r iaith Gymraeg ac sy’n ymgyrchu yn unol â'r dull di-drais ac yn gadarnhaol dros hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o'u bywyd.
Yn 1962 yn narlith Tynged yr Iaith nodwyd fod angen chwyldro er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Am bron i bumdeg mlynedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod ar flaen y gad yn arwain y chwyldro hwnnw.
1960au - Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog
1970au - Ymgyrchu am sianel Deledu Cymraeg
1982 – Sefydlu S4C, unig sianel deledu Cymraeg y byd
1980au - Ymgyrch am Ddeddf Eiddo er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg
1993 - Deddf Iaith a roddai ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyfyngedig
2000au - Ymgyrchu dros gadw ein ysgolion pentrefol; Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd
2010 - Statws Swyddogol i'r Gymraeg, y Mesur Iaith Gymraeg
2011 - Sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rydym yn credu fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gan y mudiad bolisïau blaengar mewn pedwar maes sy’n effeithio’r Gymraeg er mwyn hyrwyddo’r iaith:
Hawliau Ieithyddol
Er fod y Gymraeg yn iaith swyddogol erbyn hyn mae’r mesur iaith presennol yn rhoi mwy o hawliau i sefydliadau i beidio â gweithredu drwy’r Gymraeg nag yw’n rhoi'r hawl i bobol Gymru defnyddio’r iaith. Byddwn felly yn parhau i frwydro dros Fesur Iaith cryf sydd yn cynnwys hawliau i bobl weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.
Addysg
Credwn fod y Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol i bob plentyn ac y dylai fod gan bawb yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg gynradd ac uwchradd yn lleol, ac y dylai addysg Gymraeg gyflawn fod ar gael hyd at lefel Prifysgol a thu hwnt. Ymhellach dylai'r system addysg arfogi pobl ifanc i ddeall gweithdrefnau a systemau gwleidyddol a sut i wneud gwahaniaeth.
Cymunedau Cynaliadwy
Mae'r farchnad dai yn aml y tu hwnt i gyrraedd bobl leol. Dylai system gynllunio adlewyrchu a gweithio er lles y gymuned leol drwy asesu'r angen lleol am dai a datblygu'r farchnad dai yn ôl hynny gan sicrhau stoc digonol o dai fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu a sicrhau cymorth i brynwyr tro cyntaf ac i bobl leol.
Cyfryngau
Cred Cymdeithas yr Iaith fod y cyfryngau modern yn holl bwysig i ddyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Er mwyn rhoi hygrededd i’r iaith a hyder i’w siaradwyr ymgyrchwn dros wasanaeth Cymraeg ar orsafoedd radio lleol; ac annibyniaeth a chyllid teg i’n sianel deledu Gymraeg.
Ond mae’r Gymraeg yn ddiogel erbyn hyn...
Mae sefyllfa’r iaith wedi cryfhau dros y blynyddoedd mae’n wir, ond mae nifer o ffactorau fel effaith globaleiddio a dirywiad cymunedau Cymraeg yn fygythiad i'r iaith. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau - yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, cyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.
Dydw i ddim yn un i brotestio...
Beth yw'r dewis arall – derbyn popeth yn ddi-gwestiwn? Sut mae hynny'n mynd i ddiogelu'n cymunedau, ein gwlad a'r Gymraeg? Hanfod y Gymdeithas yw gweithredu yn ôl y dull di-drais; gall hyn fod yn unrhyw beth o ysgrifennu llythyr am ddiffyg gwasanaeth Gymraeg neu gasglu llofnodion ar ddeiseb, hyd at brotestio neu hyd yn oed baentio sloganau. Does neb o fewn y Gymdeithas yn cael ei orfodi i wneud unrhyw beth a rhoddir pwyslais ar annog a chynorthwyo ein haelodau i gyfrannu a datblygu eu sgiliau er budd y gymuned. Mae angen pobol sydd yn gallu ysgrifennu, darlunio, cyfathrebu, creu pethau, pobol gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron, yn wir, beth bynnag eich talentau, mae yna le i chi yng ngwaith y Gymdeithas.
Beth alla i wneud?
Ymaelodwch! Ymuna â chell. Cell yw cangen leol o’r Gymdeithas. Mae yna gelloedd drwy Gymru gyfan a gallwch chi ddechrau cell yn eich ardal chi yn ddigon hawdd.
Does dim angen llawer o bobol i ddechrau cell a gall eich swyddog lleol cynorthwyo chi. Beth sy'n digwydd yn fy rhanbarth i? Cysylltwch gyda ni i gael manylion pellach am ein hymgyrchoedd a sut gallwch chi fod yn rhan o chwyldro Cymdeithas yr Iaith.
Cofiwch, cymdeithas o bobol yw Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, hynny yw, chi!
Mae’ch cyfraniad yn holl bwysig a gyda’n gilydd rydym yn arwain y frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg
Ymunwch â’r chwyldro!
01970 624501 swyddfa@cymdeithas.cymru