Beth bynnag yw eich barn bersonol ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith i blant, nid oes modd gwadu bod y status quo yn aneffeithiol ac annerbyniol. Nid yn unig oherwydd bod tros 75% o’n plant yn cael eu hamddifadu o'r gallu i siarad yr iaith yn rhugl, ond hefyd oherwydd bod y gyfundrefn addysg yn ceisio sicrhau bod pob un disgybl yn rhugl, ond yn methu’n llwyr i gyflawni’r nod. Felly, mae gennym gyfundrefn sydd yn anelu at nod clodwiw iawn, ond nid yw hi’n gweithio. Dyna pam mae consensws ymysg addysgwyr ac yn drawsbleidiol dros newidiadau
sylweddol i’r system.
Ni allai unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad Yr Athro Sioned Davies ddod i unrhyw gasgliad ond bod angen chwyldroi’r system, yn hytrach na’i chadw. Y broblem sylfaenol o ran dysgu Cymraeg fel ail iaith yw nad oes fawr neb o ddisgyblion mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng yn medru gair o'r iaith ar derfyn y cwrs. Mewn geiriau eraill, mae’r gyfundrefn yn methu, er gwaethaf ymdrechion nifer o athrawon talentog yn y maes.
Nid oes angen ail-esbonio budd dwyieithrwydd neu aml-ieithrwydd i fwyafrif helaeth pobl Cymru. Mae barn y Gymdeithas yn glir: mae gan holl blant Cymru yr hawl i ddod yn ddwyieithog gan bod y Gymraeg yn etifeddiaeth unigryw i bawb sydd yn gwneud Cymru yn gartref iddynt, nid ychydig ohonom yn unig. Mae’r Gymraeg felly yn sgil hanfodol i bawb, er mwyn i bawb allu cyfrannu’n llawn at ein gwlad ddwyieithog ni, ac er mwyn i bawb gael byw yn Gymraeg.
Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng, ffaith mae’n amhosib ei wadu. Dangosir hyn gan y llun uchod -- gan fod 6500 o siaradwyr Cymraeg yn marw bob blwyddyn o gymharu a 5100 o blant sy'n caffael yr iaith. Wedi cynnwys effaith patrymau mudo, collwn 3000 o siaradwyr yn flynyddol: nid oes digon o blant yn dod allan o’r gyfundrefn
addysg i wneud lan am y newidiadau demograffig. Ffaith sydd hyd yn oed yn gliriach wrth edrych yn fanylach ar ganlyniadau’r Cyfrifiad: roedd niferoedd y bobl ifanc a oedd yn siarad Cymraeg yn 2001 wedi gostwng o tua 85,000 i tua 37,500 ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
Mae adroddiad Sioned Davies i'w groesawu gan ei fod yn gwneud argymhellion difrifol, ac argymhellion sydd angen eu gweithredu’n syth os ydyn ni am sicrhau twf yn yr iaith dros y blynyddoedd i ddod. Mae casgliadau'r adroddiad yn drawiadol, gan amlygu difrifoldeb y problemau sydd angen eu datrys ar frys.
Ymhlith y problemau a amlygir yn yr adroddiad y mae athrawon Cymraeg na fedrant yr iaith eu hunain, asesiad llafar wedi dysgu darn ar gof fesul gair, a’r methiannau lu a adnabyddir gan adroddiadau Estyn.
Dywed yr adroddiad yn gwbl glir: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. ... mae’r safon yn gyffredinol wedi gostwng yn flynyddol yn ôl adroddiadau Estyn; yn wir, mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro. Ond mae cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Y shifft allweddol mae’r adroddiad yn ei argymell yw dechrau cyflwyno, fan leiaf, peth o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae hynny’n cefnogi prif neges ein cyflwyniad ni i’r adolygiad, sef cyflwyno addysg gyfrwng Gymraeg i bawb yn ogystal â’i haddysgu fel pwnc, yn hytrach na’i dysgu
fel ail iaith. Yn wir, mae angen dileu’r cysyniad ail iaith.
Cefnoga’r farn nid yn unig gan academyddion, ond hefyd, yn hanfodol, gan Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru ei hun a ddywed: “Addysg cyfrwng Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar, gyda dilyniant ieithyddol cadarn drwy bob cyfnod addysg, sy’n cynnig yr amodau gorau ar gyfer meithrin dinasyddion dwyieithog y
dyfodol.”
Mae adroddiad Sioned Davies felly yn adlewyrchu’r consensws ymysg cymdeithas sifig am sut i wireddu nod y system bresennol - sef rhuglder Cymraeg i bawb. Mae ystod eang o gefnogaeth i'n cynigion i newid trefn Cymraeg "eilradd" sydd yn methu. Er enghraifft, llofnodwyd llythyr diweddar gan y Gymdeithas -- yn galw am
addysg Gymraeg i bawb -- gan llawer o bobl megis Robin Mcbryde, Adam Price, Susan Elan Jones AS ac Ann Jones AC.
Mae ei hadroddiad hefyd yn cydnabod nad yw plant yn amgyffred cyd-destun arwyddocaol na'r rheswm dros ddysgu'r iaith. Er enghraifft "nid oes gan ddisgyblion … ddealltwriaeth o gyd-destun ehangach yr iaith - yn hanesyddol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol". Gallai'r sefyllfa anhygoel godi yng Nghymru fod gwadu hawl rhai tan 18 oed i ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl, ond bod gorfodaeth i ddysgu am frwydr Bosworth.
Dylsai canlyniadau Cyfrifiad 2011 fod yn gatalydd i sicrhau gweithredu newid ym mhob rhan o fywyd Cymru. Yn anffodus, ac, er gwaethaf yr argyfwng sydd yn wynebu’r iaith ac argymhelliad yr Athro Sioned Davies bod angen gweithredu ar frys, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu oedi rhag gweithredu. Mae diffyg ymateb gan y llywodraeth yn eglur ym mhob maes o bolisi sy'n berthnasol i'r Gymraeg.
Dyna pam mae'r Gymdeithas wedi galw ar Carwyn Jones i roi ymateb o fewn 6 mis i gynigion mewn 6 maes o bolisi allweddol. Un o'r rhain yw i weddnewid y drefn o ddysgu Cymraeg Ail Iaith sy'n fethiant llwyr.
Bydd y Gymdeithas yn trefnu rali yn Aberystwyth ar y 14eg o Ragfyr i alw ar i’r Prif Weinidog ddarparu'r allweddi i agor y cloeon sy'n atal ein pobl rhag byw eu bywydau'n Gymraeg. Os ydych chi’n cytuno bod angen trawsnewid y system addysg fel bod pob plentyn yn cael byw ei fywyd yn Gymraeg, ymunwch â ni yn y rali.
Josh Parry yw Is-Gadeirydd Grwp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn fyfyriwr is-raddedig o Gaerdydd.