Diolch am y cyfle i fod yma, a gofynnwyd i mi ddeud gair am frwydr y Beasleys. Dathlu hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith wnaethom llynedd, a rhoddwyd cryn sylw i ddarlith radio Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis. Ond wrth wrando ar y ddarlith honno, sylwais fod Saunders yn gallu cyfeirio at un esiampl penodol o weithredu uniongyrchol di-drais. A'r enghraifft hwnnw oedd teulu'r Beasleys, Llangennech.
Meddai Saunders Lewis, " A gaf i dynnu eich sylw at hanes Mr a Mrs Beasley. Glöwr yw Mr Beasley....Pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol gan The Rural District Council of Llanelly, anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael.' Dyna'r stori yn gryno.
Teimlais y llynedd nad oedd digon o sylw wedi ei dalu i safiad y Beasley, ac es ati i drefnu stondin yn yr Eisteddfod. Gofynnodd cwmni theatr wedyn i mi wneud drama am eu safiad. Ac wrth ysgrifennu'r ddrama, cefais gyfle i fyfyrio peth ar safiad Eileen Beasley.
Un diben ydi lledu'r gair. Stori gudd yw safiad y Beasley. Drwy ysgol a choleg, er astudio hanes Cymru, chlywais i'r un gair am Trefor ac Eileen Beasley. Doedd cyfarwyddwr ac actorion y ddrama erioed wedi clywed amdanynt. Es i'r ysgol leol yn ddiweddar, i'r 6ed dosbarth, ac o 40 o blant, dau oedd wedi clywed am y Beasleys. Ar wahan i gwpled yng nghan Dafydd Iwan, fyddwn innau ddim wedi clywed amdanynt.
Pam ei bod yn stori gudd? Am ei bod yn stori sy'n ysbrydoli. Doedd Eileen Beasley ddim yn ran o fudiad torfol. Gallai fod wedi mor hawdd iddi berswadio ei hun mai'r cwbl oedd hi oedd gwraig tŷ ifanc. Heb rym, heb lais, heb y gallu i newid dim. Ond wnaeth hi ddim. Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth.
Wn i ddim lle cafodd hi'r syniad am wrthod talu'r dreth. Wedi'r wŷs gyntaf, gallai fod wedi mynd i'r llys a thalu'r ddirwy. Roedd wedi gwneud ei phwynt. Pan ddaeth yn fam, gallai fod wedi dweud bod ganddi hen ddigon ar ei phlât, ac nad oedd disgwyl i berson fel hi ymladd styfnigrwydd y Blaid Lafur.Pan fynnodd Llanelli ymddwyn yn gwbl warthus a gyrru'r beili i'r tŷ, byddwn wedi ildio. Beth wnaeth Eileen? Eu herio. Ymladd Etholiad o chael ei hethol yn Gynghorydd, - yr aelod cyntaf o Blaid Cymru ar y Cyngor, a'r ferch gyntaf i fod yn gynghorydd. Cael ei thrin yn warthus o ganlyniad, ond daliodd ati. Wedi i saith mlynedd fynd heibio a phan oedd yr ystafell fyw yn gwbl wag, dwi'n credu y byddai'r cryfaf yn ein mysg wedi rhoi'r gorau iddi. Daliodd Eileen Beasley ati. Gwrthdodd ddigalonni. Wedi wyth mlynedd, cafodd Bapur Treth yn Gymraeg.
Drannoeth diwrnod y Merched, mae'n weddus iawn ein bod yn talu teyrnged i wraig arbennig iawn ddangosodd y ffordd i Gymdeithas yr Iaith. Dyna ddylai ein hysbrydoliaeth fod heddiw. Mae'n ddyddiau tywyll ar y Gymraeg. Doedd dim i godi ein calon gyda ffigyrau'r Cyfrifiad. Mae'r Gweinidog Diwylliant wedi gwrthod pob un o argymhellion y Comisiynydd Iaith. Mae pob un ohonom yng nghanol rhyw fan ffradach efo cyngor neu siop neu gorfforaeth am eu diffyg defnydd o'r Gymraeg. Y neges heddiw ydi peidiwn a digalonni. Ddaru Trefor ac Eileen Beasley ddim. Yn unigrwydd eu safiad, ddaru nhw ddim ildio. Eneidiau styfnig sydd wedi cadw'r fflam i fynd. Y gwahaniaeth mawr rhyngom ni heddiw ac Eileen ydi fod gennym fudiad gyda hanner canrif o brofiad y tu cefn inni. Doedd gan Eileen ddim Cymdeithas yr Iaith y tu ol iddi. Doedd ganddi ddim gwmniaeth a chefnogaeth torf gadarn o bobl i'w hysbrydoli.
Tro nesaf rydych chi wedi blino, yn teimlo'n wan a diobaith, heb fawr o amynedd i sgwennu'r llythyr hwnnw o gwyn neu neilltuo awr i fynd i'r rali nesaf – cofiwch Trefor ac Eileen Beasley. Gadwch iddynt barhau i'n hysbrydoli. Ac er nad yw'n safiad yn ymddangos yn fawr – fawr mwy na mynnu ffurflen dreth yn Gymraeg. Cofiwch y gall y canlyniadau fod yn rhai anghyffredin.
Wrth sgwennu i gwyno at Gyngor Llanelli, arweiniodd safiad Eileen Beasley at ysbrydoli criw ifanc o bobl. Daethant ynghyd ym Mhontarddulais ym 1962 a galw eu hunain yn Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. A dyna wreiddiau un o fudiadau protest pwysicaf Ewrop ac un o'r rhai sydd wedi para hwyaf.
Angharad Tomos, Dadorchuddiad Plac Pontarddulais, Mawrth 9fed