Cyhuddo cyn-berchnogion Cwellyn Dream o ‘elwa o’r argyfwng ail gartrefi’

 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo cyn-berchnogion Cwellyn Dream, Ryan McLean a Katherine Jablonowski, o “elwa o’r argyfwng ail gartrefi.” 

Ym mis Mehefin y llynedd, gwerthodd Ryan McLean a Katherine Jablonowski hen dyddyn Cwellyn yng Nghricieth drwy raffl gyhoeddus. £5 oedd pris un ticed, ac fe addawodd y ddau y byddai rhan o’r arian a godwyd yn cael ei roi i elusen Cymdeithas y Plant pe byddai’r raffl yn llwyddiant. 

Ond mae'n hymchwil ni wedi datgelu bod y ddau wedi gwneud elw ariannol o’r raffl:

  • Prynodd Ryan McLean a Katherine Jablonowski fwthyn Cwellyn yn 2018 am £150,000

  • Gwarion nhw £27,000 ar waith i wneud y bwthyn i fyny

  • Erbyn i'r gwaith orffen, mi oedd y bwthyn wedi ei brisio yn werth £290,000 ar y farchnad agored. Pe bydden nhw wedi gwerthu’r tŷ ar y farchnad agored, byddai’n debygol y bydden nhw wedi gwneud £115,000 o elw. 

  • Gaddawon nhw, a rhoddon nhw, £10,000 i bwy bynnag rannodd y raffl yn fwyaf eang ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Rhoddon nhw £66,000 i elusen Cymdeithas y Plant 
  • Gwerthon nhw 87,000 o dicedi am £5 yr un - sy'n gwneud cyfanswm o £435,000 (cyn cymryd i ystyriaeth dydyniadau fel y rhai uchod a rhai eraill e.e. costau marchnata) 
  • Cyhoeddwyd erthygl ynghylch hyn ar Money Supplement yr Independent, gyda’r penawd: "We converted a barn and sold it in a raffle and made £149,000". 

Yn ogystal, mae’r canlynol wedi dod i’r amlwg:

  • Marchnatwyd y gystadleuaeth raffl mewn papurau newydd Llundeinig yn ogystal â rhai Cymreig.

  • Mae cwmni o’r enw Brown's Beach Ltd - cwmni yn arbenigo mewn datblygu eiddo - wedi ei gofrestru yn enw McLean a Jablonowski yn Wear, Lloegr.

Mae'n hymchwil wedi datgelu yn ogystal fod y person a enillodd y tŷ yn y raffl — Janet Shepherd o Rainford, St Helen's — yn bwriadu defnyddio’r tŷ fel tŷ haf yn hytrach na chartref. Yn ôl un erthygl: "Dywedodd Ms Shepherd ei bod yn bwriadu defnyddio’r bwthyn ar gyfer gwyliau gyda theulu a ffrindiau, gan ychwanegu fod y bwthyn yn rhoi ‘sicrwydd ariannol inni fel ein bod yn gallu gwneud pethau’n ôl adref hefyd’”.  

Mae tŷ arall bellach ar werth mewn raffl, ychydig o filltioredd i ffwrdd o fwthyn Cwellyn ar fferm yng Nghefn Isa, gan gwpwl a ddywedodd yn wreiddiol eu bod yn bwriadu 'ymddeol' yn y tŷ, ond sydd bellach am fynd adref i fyw yn agos at y teulu yn swydd Lincoln. Mae Ryan McLean a Katherine Jablonowski yn marchnata’r raffl ac mae'r ddau ohonyn nhw wedi sefydlu gwefan yn marchnata ‘Cwellyn Dream 2’ yn ogystal â thudalen ar Facebook. 

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith, Osian Jones:

‘Dwi’n teimlo’n ddig. Dwi’n ddig hefo Ryan McLean a Katherine Jablonowski; am elwa o’r argyfwng ail gartrefi; dwi’n ddig hefo’r cyfryngau am farchnata’r raffl yn gwbl ddi-gwestiwn heb unrhyw sgriwtini a dwi’n ddig hefo’r system am alluogi i’r fath anghyfiawnder ddigwydd. Mae cyfalafwyr fel McLean a Jablonowski yn gwneud elw iddyn nhw’u hunain tra bod argyfwng ym marchnad dai a chymunedau Cymru, ac mae’n ymddangos fod bwlch yn y gyfraith yn caniatáu i’r math yma o beth ddigwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i gau’r bwlch yma er mwyn sicrhau na all dim byd fel hyn ddigwydd eto.’

Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:

‘Dyma antithesis ein gweledigaeth o gymdeithas sy’n blaenoriaethu cartrefi, nid cyfalaf, ac mae’n tanlinellu’r angen gwirioneddol i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r argyfwng tai ar frys. Fel rhan o’n gweledigaeth ‘Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, rydyn ni’n cynnig pecyn o fesurau fyddai’n cyflawni’n union hyn ac yn galw ar y llywodraeth nesaf i’w gweithredu. Er enghraifft, galwn am osod cap ar ganran yr ail gartrefi neu dai haf sydd mewn cymuned; newid y diffiniad o dai fforddiadwy a rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol; cyflwyno uwch-dreth ar ail dai ac elw landlordiaid a datganoli pwerau cynllunio i Awdurdodau Lleol.

‘Mae ganddon ni gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol o’r dicter yma, fydd yn sicrhau gwytnwch ein cymunedau nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n ddig gyda’r anghyfiawnder amlwg yma ymuno â Chymdeithas yr Iaith, fel y gallwn, gyda’n gilydd, bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddatrys yr argyfwng tai ar frys.’

NODIADAU:

  1. 'Money Supplement' yr Independent: https://inews.co.uk/inews-lifestyle/money/house-raffle-win-competition-renovation-property-cottage-barn-700433

  2. Wales Online: https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/couple-raffle-house-wales-criccieth-18360108

  3. Tudalen Facebook 'Cwellyn Dream 2’: https://www.facebook.com/cwellyndream