Cais Rhyddid Gwybodaeth - Y Cwricwlwm

YMATEB LLYWODRAETH

ATISN 13044 Cais Rhyddid Gwybodaeth -Y Cwricwlwm

Annwyl Mr Nosworthy,

Diolch i chi am eich cais am wybodaeth a ddaeth i law ar 12 o Fawrth am y Saesneg yn y cwricwlwm newydd. Mae'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani wedi'i gynnwys isod:

1.Manylion am yr ymrwymiadau cyfreithiol, y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.97 y papur gwyn ary cwricwlwm newydd, sydd ar y Llywodraeth i wneud dysgu Saesneg yn orfodol yn y cwricwlwm

Nid yw’r Papur Gwyn yn datgan fod y gyfraith bresennol yn golygu fod yn rhaid i’r Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd.

Beth sydd yn cael ei ddatgan yw fod y Saesneg yn ogystal a’r Gymraeg yn cael eu cynnwys i adlewyrchu ein hymrwymiad cyfreithiol, polisi ac addysgol at ddwyieithrwydd.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig y bod y Saesneg yn statudol nid yn unig i adlewyrch natur ddwyieithol Cymru ond hefyd iroi neges gryf fod y ddwy iaith yn gyfartal yng Nghymru.Mae hyn yn gyson gyda’ragwedd at ddeddfu yng Nghymru fel y gwelir yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a wnaed o dan y Mesur hwnnw a Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.  

2.Nifer y lythyrau a/neu e-byst sydd wedi eu derbyn gan y Llywodraeth ers 1af Ionawr 2018 oddi wrth arbenigwyr addysg a/neu rhanddeiliaid yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd

Nid oes unrhyw lythyrau nac ebyst wedi eu derbyn gan arbenigwyr addysg a/neu rhanddeiliaid yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newyddo 1af Ionawr 2018 hyd 28 Ionawr 2019.

3.Rhestr o'r cyrff sydd wedi gohebu gyda'r Llywodraeth ers 1af Ionawr 2018 yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd.

Nid oes unrhyw gyrff wedi gohebu gyda’r Llywodraeth yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd o 1af Ionawr 2018 hyd 28 Ionawr 2019.

4.Rhestr o'r arbenigwyr addysgsydd wedi gohebu gyda'r Llywodraeth ers 1af Ionawr 2018 yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd;

Nid oes unrhyw arbenigwyr addysg wedi gohebu gyda’r Llywodraeth yn argymell y dylai dysgu Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd o 1af Ionawr 2018 hyd 28 Ionawr 2019.

Hyderaf fod yr uchod yn ateb eich cwestiynnau.
 
Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr ateb hwn. Dylech anfon cais am adolygiad mewnol at
 
Swyddog Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol:
Yr Uned Hawl i Wybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bostio: rhyddidgwybodaeth@llyw.cymru
 
Cofiwch nodi'r cyfeirnod ATISN uchod.
 
Mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:
 
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF.
 
Fodd bynnag, dylech nodi nad yw'r Comisiynydd fel arfer yn ymchwilio i gŵyn nes ei fod wedi bod drwy ein proses adolygu mewnol ni.
 
Yn gywir
 
Dr Iorwerth Griffiths
Is-adran Y Cwricwlwm ac Asesu
AtodiadMaint
YmatebFOI.pdf218.61 KB