Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn osgoi sgriwtini ar Ganolfan Bedwyr

Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’n hallt benderfyniad is-ganghellor Prifysgol Bangor i “osgoi sgriwtini” ar fater dyfodol Canolfan Bedwyr drwy ganslo cyfarfodydd gyda Chymdeithas yr Iaith deirgwaith yn olynol. 

 

Yn wreiddiol, cytunodd yr Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, i gwrdd â ni ar yr 11eg o Dachwedd, ond cafodd y cyfarfod ei ganslo ganddo. Cytunodd i ail-drefnu’r cyfarfod ar gyfer yr 20fed o Dachwedd, ond fe benderfynodd ganslo’r cyfarfod hwnnw ar ddiwrnod y cyfarfod. Fe ail-drefnwyd unwaith yn rhagor ar gyfer y 13eg o Ionawr - cyn i e-bost o swyddfa’r is-ganghellor ganslo’r cyfarfod hwnnw hefyd.

Dywedodd cadeirydd ein Grŵp Addysg, Toni Schiavone: 

“Mae’n gwbl arferol bod cyfarfodydd yn cael eu canslo bob hyn a hyn, ond mae canslo tri chyfarfod yn olynol yn awrgymu bod rhywbeth od iawn ynghylch y sefyllfa. Gofynnon ni am gyfarfod gydag Iwan Davies er mwyn trafod ei gynlluniau hynod ddadleuol i wanhau Canolfan Bedwyr. Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda fe ers mis Hydref y llynedd, mae bellach yn fis Ionawr a dydyn ni’n dal heb gwrdd ag e. Yn fy marn i mae’n edrych yn debygol bod yr is-ganghellor wedi penderfynu gwneud hyn yn fwriadol, gan ei fod yn gwybod yn ei galon nad oes cyfiawnhad dros y cynlluniau hurt yma fyddai’n gymaint o ergyd i’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a’r tu hwnt; mae hyn yn edrych fel ymgais ar ei ran i osgoi atebolrwydd yn wyneb yr ymgyrch boblogaidd i achub y Ganolfan."

Anfonon lythyr at yr is-ganghellor yn ôl ym mis Hydref i fynegi ein pryderon ynghylch cynlluniau Prifysgol Bangor i wanhau Canolfan Bedwyr ac i ofyn am gyfarfod i drafod y mater.

Ychwanegodd Toni Schiavone:

“Mae cyfraniad Canolfan Bedwyr i ecosystem ieithyddol y gogledd-orllewin yn gwbl allweddol, ac yn wir fe gydnabyddir y Ganolfan fel canolfan ieithyddol o bwys cenedlaethol a rhynglwadol. Byddai trosglwyddo adrannau Gloywi Iaith, Technoleg Iaith ac Adran Safonau, neu unrhyw adran arall, o Ganolfan Bedwyr i Wasanaethau Academaidd a Chorfforaethol y Brifysgol yn arwain at wanhau’r Ganolfan hollbwysig yma gan beryglu statws gwaith ymchwil am y Gymraeg. Pryderwn ymhellach mai cymhelliant ariannol yn unig sydd i’r penderfyniad hwn ac nad yw’r Brifysgol wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i’r goblygiadau ieithyddol”.