Cefnogaeth i reoleiddio'r farchnad tai yng Nghymru

Rydyn ni'n cefnogi adroddiad Siarter Cartrefi Cymru a gaiff ei lansio yn y Senedd heddiw. Mae'r argymhelliad cyntaf - "Rheoli'r Farchnad Tai yng Nghymru" yn cyd-fynd yn union gydag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Eiddo.

Dywedodd Jeff Smith Cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

"Yn ein cymunedau Cymraeg, mae hwn yn fater brys iawn a rhaid pasio Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hwn. Yfory (dydd Iau 1/7) byddwn yn gosod posteri mawr yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau'r Llywodraeth, a daw y neges yn weladwy wedyn trwy'r wlad yn arwain at rali fawr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ar ddydd Mercher 9ed Awst".

Ychwanegodd llefarydd ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas:
"Mae ein amheuon am fwriad y llywodraeth i fynd at wraidd y broblem dai wedi cynyddu yr wythnos hon yn sgil cyhoeddiad y Prif Weinidog na bydd Bil Eiddo o flaen y Senedd yn y flwyddyn nesaf. Rhaid i ni gynyddu'r ymgyrch i sicrhau fod Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi'n fuan a bod Bil o flaen y Senedd yn ystod y tymor hwn, yn 2024-25. Dywed Mark Drakeford fod angen rhoi 'pobl o flaen elw' wrth gyflwyno Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau, ac y mae'r un angen o ran rheoli'r farchnad dai."

Darllenwch yr adroddiad ar wefan Siarter Cartrefi