Canmol Cyngor Ceredigion ar fater ail gartrefi

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu cynnig a basiodd Cyngor Sir Ceredigion ddoe ar yr argyfwng tai yn y sir.

 

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (17 Mehefin), pleidleisiodd Cyngor Sir Ceredigion yn unfrydol o blaid cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong sy’n ymrwymo’r Cyngor i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau i daclo’r argyfwng tai:

Noda’r Cyngor:
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  1. ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael hawl i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu uned gwyliau;

  2. addasu’r fframwaith polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal;

  3. ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Strong yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor Sir: 

“Rwy’n disgwyl i Mark Drakeford wrando’n astud iawn arnom ni heddiw ac i weithredu ar sail yr hyn yr ydym yn ei ddweud . . . Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn gallu cael cartref sefydlog eu hunain. Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom yn byw mewn cartref sy’n sefydlog, y rhan fwyaf, os nad pawb, yn berchen ar eu tŷ eu hunain, ond mae miloedd o bobl nawr yn dioddef y risg o beidio prynu tŷ drwy gydol eu hoes oherwydd cystadleuaeth mor annheg sy’n dod gan bobl gyfoethog iawn sy’n gallu prynu ail neu drydydd tŷ.”

Ychwanegodd arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, a eiliodd y cynnig: 

“Dw i yn gobeithio y gwelwn ni’r Llywodraeth yn symud ynghynt yn hytrach na’n hwyrach, achos ma’r amser yn hedfan, a phetha’n . . . mynd yn waeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith:

“Mae’r argyfwng tai yn broblem anferth yng Ngheredigion ac mae’n dda gweld bod y Cyngor yn bwriadu gweithredu. Mae’n dda gweld hefyd bod ewyllys wleidyddol yn bodoli ac yn deillio o arweinyddiaeth y Cyngor, gyda’i arweinydd Ellen ap Gwynn yn ei gwneud yn glir yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor fod angen gweithredu ar y mater hwn. 

“Mae’r argyfwng yn broblem genedlaethol. Fel rhan o’n dogfen weledigaeth ar gyfer yr etholiad, ‘Mwy Na Miliwn’, rydyn ni’n cynnig amryw o bolisïau posib y gellid eu gweithredu i ddatrys y broblem. Yn ogystal â gweithredu galwadau Cyngor Sir Ceredigion, mae angen i’r Llywodraeth roi grymoedd llawn i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau. Mae hefyd angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi lleol i bawb.