Cwymp ym mhoblogaeth Ceredigion: galw am weithredu brys

Wrth ymateb i gyhoeddiad am y cwymp ym mhoblogaeth Ceredigion wrth i bobl ifanc adael y sir rydyn ni wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys.

Yn ôl Is-gadeirydd y mudiad, Tamsin Davies:
"Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2001 bod y boblogaeth mewn ardaloedd gwledig yn heneiddio wrth i bobl ifanc adael. Yn amlwg mae'r dueddiad honno wedi parhau ac yn digwydd ar raddfa uwch. Rydyn ni'n croesawu'r galwadau i gynnal cynhadledd a chreu corff newydd i fynd i'r afael â'r mater ond mae pethau y gall y Llywodraeth eu gwneud yn syth hefyd.
"Rydyn ni'n galw am Ddeddf Eiddo fydd yn sicrhau cartref i bawb, ac yn blaenoriaethu pobl leol ers sawl degawd. Mae'r angen am Ddeddf Eiddo yn fwy amlwg nag erioed, wrth i bobl leol, pobl ifanc yn enwedig, gael eu prisio allan o'r farchnad tai leol.
"Ond mae angen swyddi o safon hefyd. Mae'r Llywodraeth ei hun yn gyflogwr sylweddol, a gallai arwain y ffordd trwy fanteisio ar yr arfer newydd o weithio adref a gofodau cymunedol; a gall annog cyrff a sefydliadau cysylltiedig i wneud yr un peth."

Yn arwain at Etholiad Cyffredinol 2021 cyhoeddwyd ein gweledigaeth, 'Mwy na Miliwn: Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb', sy'n argymell:

  • sefydlu dyletswydd ar y llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ledled y wlad
  • datganoli cannoedd o swyddi sector cyhoeddus o Gaerdydd
  • sefydlu Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol a Menter Ddigidol Gymraeg yn siroedd y gorllewin i weinyddu yn Gymraeg
  • ail-agor rheilffyrdd Aberystwyth i Gaerfyrddin a Bangor i Borthmadog

Ychwanegodd Tamsin Davies:
"Mae'r arfer o ganoli gwasanaethau wedi golygu bod cymunedau gwledig wedi bod ar eu colled dros y blynyddoedd. Mae effeithiau hynny'n dangos nawr. Byddwn ni'n lansio Maniffesto sy'n gosod ein gweledigaeth ar gyfer y cyfnod i ddod yn yr Eisteddfod. Mae'n tynnu sylw at y cysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau a'r iaith - a'r atebion cyffredin rhyngon nhw.
"Mae diogelu cymunedau yn greiddiol i'r ddau - mae'r hyn sy'n llesol i'n cymunedau a'r Gymraeg yn llesol i'r blaned hefyd, ac i'r gwrthwyneb."