Cyfri'r dyddiau nes rali Deddf Eiddo

Byddwn ni'n cynnal rali fawr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar ddydd Iau 4 Awst.
Bydd y rali yn rhan o ymgyrch "Nid yw Cymru ar werth" a disgwylir i gannoedd orymdeithio o uned Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod at uned Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y bwriad i gynnal rali 50 diwrnod i'r dyddiad, a bydd cyhoeddiad dyddiol am siaradwyr, cantorion a threfniadau'r rali nes diwrnod y rali.

Hyd yma mae'r prif siaradwyr wedi eu cyhoeddi: Walis Wyn George, arbenigwr ym maes tai o Lanrug, Gwynedd a Meri Huws. Mae Walis yn gyn-Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Gwynedd, a bu'n gefnogol i ymgyrch y Gymdeithas ers y 1980au.

Dywedodd Walis Wyn George "Mae Deddf Eiddo yn syniad y mae ei amser wedi cyrraedd; yn wir y mae ei hangen ar frys a rhaid i'n Llywodraeth ei chyflwyno'n ystod y tymor seneddol hwn. Gobeithiaf y bydd pobl yn dod o gymunedau ledled Cymru i fynnu bod y llywodraeth yn gweithredu i sicrhau dyfodol i'r cymunedau hyn."

Mae Meri â'i gwreiddiau yn nwfn yn  Nyfed - wedi'i magu yn Sir Benfro, ac yn byw nawr yn Sir Gâr lle mae'n gadeirydd ar Fforwm Iaith Sir Gaerfyrddin.
Mae ganddi ddegawdau o brofiad o ran polisïau iaith a'r sefyllfa dai yng Nghymru wedi iddi wasanaethu ar fyrddau nifer o sefydliadau sy'n weithredol yn y meysydd hyn.

Hefyd yn siarad fydd Cai Phillips, myfyriwr a fu'n arwain yn yr ymgyrch ar faes Eisteddfod yr Urdd i gasglu dros 200 o enwau pobl ifanc fydd yn chwilio cartref mewn blynyddoedd i ddod, ar alwad ar y Llywodraeth i greu strategaeth tai.

Esboniodd Osian Jones, ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas: "Mae pawb yn ymwybodol o'r broblem fod pobl ifainc yn methu fforddio prynu na rhentu tai yn eu cymunedau eu hunain, ein bwriad yw symud yr ymgyrch ymlaen i fynnu fod y Llywodraeth yn cyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i drefnu tai fel asedau cymdeithasol, nid fel asedau masnachol. Dim ond fel hyn y gallwn ni sicrhau dyfodol i'n cymunedau. Mae'r sefyllfa'n arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd twristaidd, ond mae tai yn broblem ledled Cymru."