Galw am ymddiswyddiad Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiswyddiad Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru yn sgil bwriad y corff i danseilio’r broses ddemocrataidd drwy wrthod datblygu un cymhwyster Cymraeg, a thrwy hyn wrthwynebu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflwyno un continwwm o addysg Gymraeg. 

 

Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu gair y byddent yn datblygu un continwwm dysgu Cymraeg go iawn, ac i roi cyfarwyddyd clir i Cymwysterau Cymru i ddatblygu un cymhwyster fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bob disgybl adael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl. 

Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ymgynghori yn y flwyddyn newydd ar y cymwysterau fydd yn cyd-fynd gyda’r cwricwlwm newydd. Mewn cyfarfod diweddar gyda Chymdeithas yr Iaith, dywedodd uwch swyddogion Cymwysterau Cymru nad yw’n fwriad ganddynt i gynnwys yr opsiwn o gyflwyno un cymhwyster Cymraeg yn eu hymgynghoriad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd ar y sail nad ydynt fel corff yn cytuno gyda’r nod.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd ein Grŵp Addysg:

 

“Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio eu hymrwymiad i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg yng Nghymru, gan roi diwedd ar Gymraeg ail iaith. Mae cael un continwwm yn golygu cael un cymhwyster: un cwricwlwm, un cymhwyster a chyfle cyfartal i bob disgybl yng Nghymru. Ond er gwaethaf bwriad clir y Llywodraeth i symud tuag at un continwwm, rydym yn deall na fydd Cymwysterau Cymru hyd yn oed yn cynnwys yr opsiwn o greu un cymhwyster Cymraeg yn eu hymgynghoriad nesaf. 

“Mae cefnogaeth eang ar draws y pleidiau i sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i ddatgan yn glir dros sawl blwyddyn gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones. O ystyried pwysigrwydd creu un cymhwyster a’r consensws gwleidyddol, mae bwriad Cymwysterau Cymru - sy’n gorff anetholedig - i beidio hyd yn oed ymghynghori arno yn dangos eu bod yn tanseilio polisi cenedlaethol y llywodraeth etholedig a dyhead pobl Cymru. Mae bwriad haerllug a di-sail Cymwysterau Cymru i rwystro’r broses ddemocrataidd yn annerbyniol ac o ganlyniad dydyn ni ddim yn teimlo bod dewis ond galw am ymddiswyddiad eu Prif Weithredwr.

 

Ychwanegodd ein Cadeirydd cenedlaethol, Mabli Siriol:

 

“Rhaid symud i ffwrdd o’r anghyfiawnder presennol lle mae 80% o’n disgyblion yn gadael yr ysgol yn rhugl mewn un iaith yn unig, sef Saesneg. Yn hytrach na pharhau i laesu dwylo, dylai’r Llywodraeth ofyn i Brif Weithredwr presennol Cymwysterau Cymru gamu o’r neilltu a rhoi cyfarwyddyd clir i’r corff i fynd ati i ddatblygu un cymhwyster. Dyma’r unig ffordd y gallwn ni sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl.”