Cynigion Cyfarfod Cyffredinol 2021

Dyma'r cynigion fydd yn cael eu trafod yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar 13 Tachwedd, 2021 yng Nghanolfan Trebiwt, Caerdydd.

Nodir amserlen y Cyfarfod Cyffredinol isod. Mae croeso i unrhyw un fynychu ond dim ond aelodau fydd â'r hawl i bleidleisio.

Rhowch wybod i'r swyddfa os ydych yn bwriadu mynychu os gwelwch yn dda. Gofynnir i chi beidio â mynychu os ydych yn anhwylus neu’n dangos unrhyw symptomau Cofid, ac fe'ch anogir i deithio ar wahân ac i rannu car ond gydag unigolion sy'n rhannu aelwyd estynedig efo chi, neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd angen gwisgo mwgwd yn yr adeilad ac i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau eraill y ganolfan o ran diogelwch Cofid.

9.45 Cofrestru a phaned

10.15 Croeso ac esbonio’r Cyfarfod Cyffredinol

10.20 Cynigion a gwelliannau

11.50 Egwyl fer i bleidleisio ar y swyddi gwag

12.00 Adroddiadau blynyddol y grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau a’r adroddiadau ariannol

12:30 Cyhoeddi canlyniadau'r etholiad

12.40 Cinio ac ymadael

AtodiadMaint
Cynigion Cyfarfod Cyffredinol CYI 2021.pdf100.17 KB