Galw ar y Senedd i “weithredu nawr” i reoli’r farchnad dai

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Aelodau o’r Senedd i “weithredu nawr i daclo’r argyfwng tai, cyn y bydd yn rhy hwyr i achub ein cymunedau.” 

Bydd dadl yn digwydd yn y Senedd heddiw (17 Mawrth) i drafod deiseb Cymdeithas yr Iaith, a arwyddwyd gan 5,386 o bobl, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru roi grymoedd i awdurdodau lleol reoli’r farchnad dai. 

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith, Osian Jones: 

“Rydyn ni’n chwilio am ymrwymiadau gan bleidiau ar gyfer Deddf Eiddo yn fuan yn nhymor newydd y Senedd, er mwyn inni allu wirioneddol fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n achosi cymaint o niwed a phoen yn ein cymunedau. Y gwir amdani yw nad yw’r farchnad agored yn gweithio er budd ein cymunedau ac mai dyma sydd wrth wraidd yr argyfwng; mae felly angen trawsnewid polisi tai yng Nghymru fel ei fod yn blaenoriaethu cartrefi, nid cyfalaf. Yn ogystal, fel rhan o’n gweledigaeth ‘Mwy Na Miliwn Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, rydyn ni’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau er mwyn trawsnewid y farchnad dai, megis trethi ar dwristiaeth, elw landlordiaid ac ail dai.

“Yn y cyfamser, mae angen gweithredu brys, yn ystod y mis nesaf, gan fod cymaint o bwysau ar y farchnad dai'r haf hwn. Byddai rhoi grymoedd i awdurdodau lleol reoli’r farchnad dai — gan gynnwys y grym i newid y meini prawf ar gyfer ailgofrestru cartref yn fusnes — yn galluogi awdurdodau lleol i daclo’r argyfwng ar frys. Mae gan Aelodau o’r Senedd y grym i achub ein cymunedau, ac felly byddwn yn erfyn arnynt i weithredu nawr — er lles pobl a chymunedau Cymru ac er lles y Gymraeg. Os byddwn yn parhau i oedi, ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith gymunedol.

Gwyliwch y ddadl yn fyw (yn y prynhawn).