Strategaeth datblygu gallu’r gweithlu addysg

Strategaeth datblygu gallu’r gweithlu addysg

Pwysywch yma i agor fel PDF

Rydyn ni'n galw am sefydlu Cronfa Datblygu’r Gweithlu Addysg Gymraeg o £10 Miliwn yn flynyddol am y 5 mlynedd nesaf ar gyfer:

Awdurdodau Lleol
Cyllido yn seiliedig ar geisiadau cynllunio gan yr Awdurdod Lleol

1. Hyfforddiant Gweithlu – traws-awdurdod – ceisiadau gan awdurdodau lleol/MYM ar gyfer

        1.1 Blynyddoedd cynnar/Meithrin -  gan sefydliadau Addysg blynyddoedd cynnar ar y cyd ag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau dilyniant yn y sector statudol
        1.2 Ysgolion – datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm; dilyniant cynradd/uwchradd;
        1.3 Ôl-16 – dilyniant CA4/Addysg Uwch; dilyniant CA4/Addysg Bellach
        1.4 Hyfforddiant cymorthyddion dosbarth  - Blynyddoedd cynnar/cynradd; uwchradd
        1.5 Hyfforddiant staff ategol
        1.6 Hyfforddiant Addysg all-gyrsiol – mewn cydweithrediad ag asiantaethau allanol cerdd, chwaraeon, drama ayyb
        1.7 Canolfannau trochi ar gyfer newydd-ddyfodiaid

Ysgolion
      2.Hyfforddiant Ysgol ganolog – cronfa benodol i ysgolion i ddatblygu’r Gymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol – ceisiadau gan ysgolion

        2.1 Ysgolion Rhaglen Blaengaredd/ Goleudai
        2.2 Ysgolion sy’n dymuno symud ar hyd y continwwm ysgolion o fewn y 5 mlynedd nesaf
        2.3 Cynlluniau ysgol -  ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm
        2.4 Cynllun ysgol – datblygu medrau iaith athrawon/ adrannau mewn ysgol
        2.5 Rhaglenni Teulu(targedau rhieni/disgyblion o gefndir cymysg/di-Gymraeg – rhaglen ddysgu rhieni/disgyblion ar y cyd – ysgolion cynradd
        2.6 Hyfforddiant mewn swydd ysgol-gyfan – blaenoriaeth diwrnod au hyfforddiant mewn swydd statudol – cyllideb sydd eisoes yn bodoli

Cenedlaethol

        3. Arweiniad gan Llywodraeth Cymru/asiantaethau cenedlaethol

        3.1 Rhaglen Hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol ar gyfer arweinwyr/penaethiaid
        3.2 Ymgorffori modiwl ar hyrwyddo datblygu’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion ym mhob rhaglen hyfforddiant ar gyfer darpar benaethiaid ysgolion
        3.3 Cynllun hyfforddiant sabothol – gwahaniaethol – yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, dilyniant a gwerthusiad

Cynllunio
        4. Strategaeth hyfforddiant Awdurdod/consortiwm

        4.1 Cynllun gweithredu gan bob awdurdod yn amlinellu’r rhaglen hyfforddiant Cymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol ac yn cydlynu’r uchod
        4.2 Pob ysgol i gyflwyno cynllun ysgol ar sut y bwriedir datblygu’r Gymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg dros y 3 mlynedd nesaf
        4.3 Monitro a gwerthuso gan swyddogion yr awdurdod lleol ac  arolygu/mesur cynnydd gan Estyn