[Darllenwch ragor drwy glicio yma i ddarllen ein dogfen 'Yr Achos dros Ddeddf Addysg Gymraeg']
Deddf Addysg Gymraeg i Bawb
Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith
Cyflwyniad
Nid oes amheuaeth bod y gyfundrefn bresennol o gynllunio addysg Gymraeg, ac yn benodol Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, wedi methu.
Cyhoeddwyd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg genedlaethol glodwiw a hanesyddol yn 2010, ond yn ôl adroddiadau blynyddol y Llywodraeth, mae nifer o’r deilliannau allweddol yn mynd yn y cyfeiriad anghywir. Mae targedau allweddol y strategaeth wedi’u methu, ac mae argyfwng o ran cynllunio a recriwtio’r gweithlu.
Hyd yn oed lle mae ychydig o dwf, mae cyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awgrymu, pe bai'r patrymau presennol yn parhau, y byddai angen aros canrifoedd lawer cyn y byddai pob plentyn saith mlwydd oed yn cael ei addysg drwy'r Gymraeg.
Diagram a gyhoeddir gyda chaniatad Statiaith
Mae gwaith Bwrdd Aled Roberts a’r adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi tynnu sylw at nifer o ddiffygion yn y gyfundrefn bresennol. Mewn ymateb i sylwadau Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg ym mis Tachwedd 2018, cyfaddefodd y Gweinidog Addysg fod “y broses o ddiwygio’r rheoliadau wedi amlygu materion yn y Ddeddf cynradd (Y Ddeddf Safonau a Thrafnidiaeth Ysgolion (Cymru) 2013) sydd angen sylw.”
Mae cefnogaeth gref i’r Gymraeg ymysg y cyhoedd yn ôl canlyniadau arolygon barn, ac mae teimlad cryf ymysg canran sylweddol o’r boblogaeth y byddent yn dymuno gallu siarad Cymraeg a dymuno i’w plant allu siarad Cymraeg. Yn ogystal, mae’r consensws trawsbleidiol o blaid y targed miliwn o siaradwyr yn golygu bod angen newid sail ddeddfwriaethol y gyfundrefn addysg Gymraeg. Er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr, mae angen ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer cyflymach na’r patrymau presennol. Mae dadansoddiad ystadegol y Gymdeithas yn dangos bod angen cynnydd o o leiaf 2.5% bob blwyddyn er mwyn cyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hynny’n newid sylweddol o’r twf ers y flwyddyn 2000, sydd oddeutu 0.24% y flwyddyn, a’r twf llai fyth ers 2010, sef 0.05% y flwyddyn.
Mae’n gwbl amlwg felly bod angen mesurau ychwanegol er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, drwy Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb ynghyd â newidiadau i bolisïau a chyllidebau eraill.
Y Ddeddfwriaeth
“Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddiaeth, yn fewnol ac yn allanol."
Erthygl 20, Deddf Addysg Catalwnia
Credwn y dylid seilio’r Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb ar y cynigion canlynol:
-
Sefydlu nod hirdymor yn y ddeddfwriaeth i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, fel y gwneir yng Nghatalwnia, yn hytrach na ‘mesur y galw’.
-
Er mwyn gweddnewid y system o fewn ychydig ddegawdau i system debyg i un Catalwnia, dylid disodli’r gyfundrefn bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a lunir gan awdurdodau lleol, cyfundrefn sydd wedi methu, gyda system sy’n gosod targedau clir, di-droi'n-ôl ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod hirdymor erbyn dyddiad(au) pendant.
-
Mae angen targedau bob pum mlynedd, a thargedau hirdymor bob deng mlynedd, gyda cherrig milltir cadarn a mesuradwy ynghyd â’r deilliannau disgwyliedig tuag at nod deddfwriaethol mwy hirdymor a hynny drwy ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Mi fydd targedau lleol yn cael eu sefydlu ar sail yr angen i gyrraedd y targedau cenedlaethol.
-
Sefydlu cyfundrefn sydd â chymhellion ariannol clir – refeniw a chyfalaf – a fformiwla glir er mwyn sicrhau bod y targedau hynny’n cael eu cyflawni drwy awdurdodau lleol. Dylai’r cymhellion ariannol clir hynny fod o fewn cyllidebau prif-ffrwd yn hytrach nag fel bonws.
-
Nodi’r dyletswyddau ar gynghorau i esbonio manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn eu holl waith a'r rhesymau dros gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i bawb wrth fynd drwy'r broses o symud i system fel un Catalwnia.
-
Gosod targedau o ran cynyddu nifer a chanran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu’n bennaf drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, yn unol ag argymhelliad adroddiad yr Athro Sioned Davies.
-
O ran atebolrwydd a monitro i sicrhau bod y targedau’n cael eu cyflawni, credwn y dylid ystyried rhoi'r pwerau a’r cyfrifoldeb ymchwilio naill ai i Estyn er mwyn iddo blethu gyda'r gyfundrefn atebolrwydd ehangach neu i Gomisiynydd y Gymraeg.
-
Hawl i drafnidiaeth yn rhad ac am ddim i ysgolion a meithrinfeydd Cymraeg.
-
Dyletswydd gyfreithiol ar weinidogion a chynghorau sir i ddilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru i ddiogelu a chryfhau ysgolion bach a gwledig, gan gynnwys proses apelio glir ac amserol.
-
Ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r sefydliadau addysg yn yr ardal leol, na llai na 50% o’r addysg drwy’r Gymraeg.
-
Gosod dyddiad targed statudol ar gyfer darparu addysg blynyddoedd cynnar a chyfnod sylfaen yn Gymraeg yn unig ar draws Cymru gyfan.
Cynllunio’r Gweithlu
Dylai’r Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb, ynghyd â mesurau eraill, gyflawni’r canlynol:
-
Sefydlu targedau statudol o ran y bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd er mwyn sicrhau cynnydd yn y ganran fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
-
Rhoi diwedd ar ffioedd dysgu i gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac ehangu’r cymorth ariannol sydd ar gael i ddarpar athrawon sy’n hyfforddi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
-
Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg o’r newydd neu i ddilyn cyrsiau gloywi iaith;
-
Sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl y cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant
-
Rhaglenni dwys o hyfforddiant mewn swydd yn y gweithle, sydd wedi’u teilwra i anghenion gwahanol y gweithlu, gan gynnwys:
-
cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i Gymru;
-
rhaglen hyfforddiant gloywi iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;
-
rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r staff nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl ar hyn o bryd i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys, yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd;
-
atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid a grwpiau cefnogi ysgol/ardal.
-
-
Sefydlu ymgyrch genedlaethol i ddenu rhagor o bobl i hyfforddi fel athrawon yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg gweithlu
-
Ynghyd â mesurau eraill i fynd i’r afael â baich gwaith athrawon, diffyg gweithlu ac athrawon yn gadael y proffesiwn, dylid cynyddu cyllideb ysgolion trwy’r awdurdodau lleol
-
Sefydlu rhaglen cyfnewid athrawon gyda gwledydd eraill, yn enwedig rhai sydd â ieithoedd lleiafrifol, er mwyn: (i) uwchraddio sgiliau ein gweithlu; (ii) manteisio ar sgiliau gwledydd eraill; a (iii) gwneud cynnydd ar wella addysg ieithoedd tramor. Dylai fod cynllun dilyniant penodol fel rhan o’r rhaglen hon.
-
Sefydlu cynllun ‘Dewch yn ôl’ i Gymru ar gyfer athrawon sy’n gweithio mewn gwledydd eraill
-
Sefydlu cynllun gyda manteision ariannol er mwyn annog pobl i symud o’r byd gwaith i ddysgu drwy’r Gymraeg, drwy gynllun fydd yn galluogi pobl i weithio’n rhan amser ac yn galluogi pobl sydd wedi ymddeol i ddysgu drwy’r Gymraeg
-
Buddsoddi yng ngwaith Cymraeg i Oedolion er mwyn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i sicrhau nifer digonol o athrawon sy’n medru’r Gymraeg.
-
Gofyniad bod y Gymraeg yn sgil hanfodol i bob aelod o staff, gan gynnwys yr holl staff cymorth, sy’n gweithio mewn ysgol Gymraeg
Newidiadau Eraill
-
Sefydlu ac ehangu canolfannau trochi ym mhob sir, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr un patrwm â’r gyfundrefn yng Ngwynedd
-
Sefydlu rhaglen genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o fanteision addysg amlieithog
-
Adfer y gwasanaeth athrawon bro i gefnogi ysgolion i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chefnogi cydweithio rhwng ysgolion