Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith

Rydyn ni wedi diweddaru'r ddeddf yn dilyn ymgynghoriad - mae'r fersiwn diweddaraf i'w weld yma

Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith - Hydref 2022

Mae'r ddogfen hon ar gael fel pdf trwy bwyso yma

Mae fersiwn Saesneg y ddeddf i'w gweld yma | An English version of the act can be found here
(We have updated the act following consultation - the latest version can be found here)

Rhagair

Drwy gyfrwng y Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig, mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau nad y rhai ffodus yn unig sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond pob un plentyn yn ein gwlad.

Mae'r ffaith bod wyth deg y cant o’n plant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg yn warth cenedlaethol, gyda'r anghyfartaledd ar ei waethaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw. Am nad ydyn nhw’n dod yn rhugl yn Gymraeg, mae’n debygol y bydd y bobl ifanc yma'n cael eu hallgáu o gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd am weddill eu bywydau. Hyd yn oed mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd drwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu.

Mae Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith yn dangos bod modd i’r Llywodraeth ddatgan mewn statud y prif nod mai'r Gymraeg, erbyn 2050, fydd cyfrwng addysg yng Nghymru. Golyga hynny y byddai pob ysgol yn cael ei gosod ar lwybr sy'n symud yn gyson at sicrhau Addysg Gymraeg i Bawb erbyn y flwyddyn honno. Mae hefyd o fewn gallu'r Gweinidog i sicrhau mai Cymraeg fydd cyfrwng pob ysgol newydd ynghyd â chreu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb fydd yn dileu'r arfer cyfeiliornus o gynnig ‘Cymraeg Ail Iaith’ cwbl annigonol i’r mwyafrif tra bod lleiafrif ffodus yn cael cyfleoedd ieithyddol cyflawn a’r holl freintiau sy’n deillio o hynny.

Mae ein diolch yn fawr i Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Keith Bush, am ei gyfraniad allweddol i'r gwaith arbenigol o ddrafftio'r Ddeddf arfaethedig. Mae ei waith wedi galluogi Cymdeithas yr Iaith i drosi ei pholisïau a’i gweledigaeth i iaith y gyfraith gan ddangos y ffordd ymlaen i'r Llywodraeth mewn ffordd hollol ymarferol.

Gobeithiwn y bydd y gwaith yn esgor ar drafodaeth gyhoeddus drylwyr ac yn dwyn i sylw'r cyfle euraidd sydd gan y Llywodraeth i unioni'r anghyfartaledd ieithyddol dwfn sy'n bodoli yn ein gwlad.

Pan fydd y Llywodraeth yn pasio ei Deddf Addysg Gymraeg ei hun, dim ond un o ddau ganlyniad all ddeillio o hynny. Un ai bydd y Gweinidog yn dewis taflu'r drysau ar agor i holl blant Cymru, neu fe fydd yn dewis dyfnhau'r anghyfartaledd ieithyddol drwy allgáu cenedlaethau'n rhagor o blant. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb. Byddai’r cynigion yn y Ddeddf hon yn gwireddu’r egwyddor honno o’r diwedd. 

Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Awst 2022

 

Deddf Addysg Gymraeg (Cymru) 202-

Deddf Senedd Cymru i osod nod statudol o sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, gan osod dyletswyddau cyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau cyflawni’r nod hwnnw, ac at ddibenion cysylltiedig.

  1. Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon-

(a) yn gosod nod statudol ar gyfer y system addysg yng Nghymru, sef sicrhau mai’r Gymraeg, erbyn 1 Medi 2050 fan bellaf, fydd iaith addysg yng Nghymru (adran 2),

(b) yn gosod ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ddyletswydd gyfreithiol gyffredinol i sicrhau cyflawni’r nod statudol trwy arfer eu pwerau mewn perthynas ag addysg mewn ffordd sy’n gyson â’r nod hwnnw (adran 2(4)(a)(i)) ac yn unol â gofynion fframwaith statudol (“Fframwaith Addysg Gymraeg”) (adran 2(4)(a)(ii)),

(c) yn gosod ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ddyletswydd gyfreithiol i hybu’r nod statudol trwy esbonio i rieni, disgyblion a myfyrwyr fanteision addysg Gymraeg (adran 2(4)(b)),

(ch) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi’r fframwaith statudol (adran 3),

(d) yn rhagnodi’r egwyddorion y seilir y fframwaith statudol arnynt (adran 4) a’r materion y bydd yn rhaid iddo’u cynnwys (adrannau 5 i 10),

(dd) yn rhagnodi’r weithdrefn o baratoi, cyhoeddi ac adolygu’r fframwaith statudol (adran 11),

(e) yn darparu ar gyfer adroddiadau blynyddol a fydd yn mesur y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nod statudol, y bydd yn rhaid eu gosod o flaen Senedd Cymru (adran 12),

(f) yn ychwanegu at swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant y swyddogaeth o adrodd ar gyfraniad ysgolion (ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill) at gyflawni’r nod statudol (adran 13),

(ff) yn diddymu’r system bresennol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (system a fydd yn cael ei disodli gan y drefn o dan y Ddeddf hon) (adran 14),

(g) yn cryfhau hawliau disgyblion ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach mewn perthynas â threfniadau teithio i ysgol neu goleg sy’n darparu addysg (neu addysg mewn pynciau penodol) trwy gyfrwng y Gymraeg (adran 15(1)),

(ng) yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ddefnyddio eu pwerau deddfwriaethol i sicrhau trefniadau teithio ar gyfer plant sy’n mynychu addysg cyn-ysgol er mwyn hyrwyddo cyflawni’r nod statudol,

(h) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dehongli, darpariaeth atodol a dod â’r Ddeddf i rym a’i henw (adrannau 16, 17, 18 ac 19).

  1. Y nod statudol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg

  1. Yn y Ddeddf hon, ystyr y “nod statudol” yw sicrhau mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, a hynny

(a) erbyn 1 Medi 2050,

(b) cyn hynny os yw’n ymarferol bosibl.

  1. Mae ystyr “iaith addysg” yn is-adran (1) yn cynnwys (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) nid yn unig cyfrwng addysgu ond hefyd, i’r graddau eu bod yn berthnasol i effeithiolrwydd addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg,

    (a) gweinyddu sefydliadau sy’n cyflenwi addysg,

    (b) darparu gwasanaethau ar gyfer y sefydliadau hynny.

  1. Nid yw’r nod statudol yn gymwys i’r iaith a ddefnyddir,

    (a) wrth ddysgu iaith a llenyddiaeth unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg,

    (b) mewn perthynas ag unrhyw gwrs mewn prifysgol a ddysgir trwy gyfrwng y Saesneg os bydd darpariaeth gyfwerth hefyd yn cael ei gwneud i ddysgu cynnwys y cwrs hwnnw trwy gyfrwng y Gymraeg.

(4) Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau yng Nghymru mewn perthynas ag addysg sicrhau cyflawni’r nod statudol, gan

(a) arfer y swyddogaethau hynny

(i) yn gyffredinol, mewn ffordd sy’n gyson â’r nod statudol, ac

(ii) yn unol ag unrhyw ofynion penodol y fframwaith statudol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 3, a

(b) cymryd camau ymarferol i hyrwyddo’r nod statudol trwy (ymhlith pethau eraill) esbonio i rieni, disgyblion a myfyrwyr fanteision addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

3 Fframwaith Addysg Gymraeg

Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Fframwaith Addysg Gymraeg (“y fframwaith statudol”) a fydd yn pennu—

(a) y camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd, wrth arfer eu pwerau statudol mewn perthynas ag addysg, er mwyn cyflawni’r nod statudol, a

(b) erbyn pryd y disgwylir iddynt gychwyn a chwblhau’r camau hynny.

4 Egwyddorion y fframwaith statudol

Rhaid i’r fframwaith statudol ymgorffori’r egwyddorion canlynol, sef

(a) sicrhau cyflawni’r nod statudol,

(b) newid y system addysg gyhoeddus o fod yn un sy’n gwahaniaethu rhwng ysgolion ar sail iaith addysg i un lle bydd ysgolion a cholegau, tra na fydd y nod statudol eto wedi ei gyrraedd mewn perthynas â hwy, yn cael eu lleoli ar lwybr sy’n arwain yn barhaus at gyflawni’r nod statudol,

(c) na chaniateir defnyddio swyddogaethau mewn perthynas ag addysg er mwyn

(i) sefydlu unrhyw ysgol neu goleg newydd oni bai bod yr ysgol honno neu’r coleg hwnnw (yn ddarostyngedig i adran 2(3)(a)) yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig

(ii) newid cymeriad na threfniadau rheolaeth unrhyw ysgol neu goleg sydd eisoes yn bodoli os bydd hynny’n golygu pellhau oddi wrth gyflawni’r nod statudol.

5 Cynnwys y fframwaith statudol

(1) Yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn adrannau 6, 7, 8, 9 a 10, rhaid i’r fframwaith statudol bennu, ymhlith pethau eraill,

(a) targedau clir a mesuradwy ar gyfer cyrraedd y nod statudol,

(b) camau ymarferol y disgwylir i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd, gan arfer eu pwerau statudol, i sicrhau cyflawni’r targedau hynny, a

(c) dyddiadau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r targedau a’r camau hynny gael eu cyflawni.

(2) Mae’r cyfeiriad at “pwerau statudol” awdurdodau yn is-adran (1)(b) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, pwerau ariannol, fel y pŵer i roi grantiau i awdurdodau a sefydliadau sy’n darparu addysg.

(3) Rhaid i’r fframwaith gynnwys darpariaethau penodol ar gyfer y sectorau addysg canlynol –

(a) addysg cyn-ysgol,

(b) addysg gynradd,

(c) addysg uwchradd,

(ch) addysg anghenion dysgu ychwanegol,

(d) addysg bellach,

(dd) addysg uwch.

(4) Cgolygaaiff y fframwaith wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â

(a) mathau gwahanol o awdurdod;

(b) mathau gwahanol o addysg;

(c) ardaloedd gwahanol;

(ch) unrhyw ffactor perthnasol arall.

6 Addysg cyn-ysgol

Rhaid i’r fframwaith ragnodi camau, gan gynnwys unrhyw rai deddfwriaethol angenrheidiol, sydd i’w cymryd gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau y bydd pob plentyn sydd heb gyrraedd oedran addysg gynradd yn medru derbyn addysg cyn-ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

7 Cynllunio gweithlu

(1) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys

(a) asesiad o

(i) nifer y staff, gan gynnwys staff proffesiynol a rhai eraill,

(ii) y sgiliau angenrheidiol, gan gynnwys gallu yn y Gymraeg

y bydd eu hangen i sicrhau cyflawni’r nod statudol, yn unol â gofynion y fframwaith statudol,

(b) datganiad o’r camau y bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) eu cymryd er mwyn sicrhau y bydd nifer y staff fydd ar gael i’w cyflogi gan ysgolion a cholegau, a sgiliau’r staff hynny, yn ddigon i ateb gofynion y fframwaith statudol.

(2) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) gynnwys (ymhlith pethau eraill) drefniadau ar gyfer

(a) sicrhau y bydd hyfforddiant athrawon yn eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a

(b) galluogi athrawon ac eraill sydd eisoes mewn swyddi sy’n ymwneud â darparu addysg, neu sy’n gymwys ar gyfer swyddi felly, i ddatblygu a gwella eu gallu i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru

(a) cyn llunio’r darpariaethau yn y fframwaith statudol sy’n ymwneud â’r adran hon, wneud arolwg digonol o alluoedd yn y Gymraeg y rhai sydd eisoes mewn swyddi sy’n ymwneud â darparu addysg,

(b) er mwyn ystyried priodoldeb unrhyw addasiadau i’r fframwaith statudol yn unol ag adran 11(3), adolygu, o bryd i’w gilydd, gasgliadau’r arolwg hwnnw, gan wneud arolygon tebyg pellach os oes angen.

8 Cymwysterau cynhwysol

(1) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau er mwyn cyrraedd y nod o ddiddymu unrhyw gymwysterau addysgol sy’n gwahaniaethu rhwng ymgeiswyr “iaith gyntaf” ac “ail iaith” (er enghraifft arholiadau TGAU “Cymraeg” a “Cymraeg Ail Iaith”) a disodli’r cymwysterau hynny gan rai sy’n gymwys i bob ymgeisydd yn ddi-wahân.

(2) Rhaid i’r camau hynny sicrhau y bydd y nod hwnnw’n cael ei gyrraedd erbyn 1 Awst 2030 fan bellaf.

9 Cyfundrefn trochi

Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau i sefydlu ac i gynnal rhwydwaith o ganolfannau trochi iaith ar gyfer darpar ddisgyblion a myfyrwyr na fyddai eu gallu yn y Gymraeg, fel arall, yn ddigonol i gyfranogi’n effeithiol mewn addysg yn yr iaith honno, a fydd yn eu galluogi i wneud hynny, ac a fydd yn hygyrch i ddisgyblion a myfyrwyr ysgol ym mhob rhan o Gymru.

10 Addysg y tu allan i’r system statudol

(1) Yn yr adran hon, ystyr addysg sydd y tu allan i’r system addysg gyhoeddus yw

(a) addysg mewn ysgolion neu golegau preifat, a

(b) addysg neu hyfforddiant ffurfiol

(i) sy’n rhan o gynllun prentisiaeth, ac

(ii) nad yw’n cael ei darparu mewn sefydliad addysg bellach neu addysg uwch.

(2) Rhaid i’r fframwaith statudol gynnwys camau er mwyn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn addysg sydd y tu allan i’r system addysg gyhoeddus.

(3) Nid yw adran 2(1)(a) nac adrannau 4 i 9, yn gymwys i’r fframwaith statudol mewn perthynas ag addysg sydd y tu allan i’r system addysg gyhoeddus.

11 Paratoi a chyhoeddi’r fframwaith statudol

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru

(a) baratoi a chyhoeddi drafft o’r fframwaith statudol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl i’r Ddeddf hon ddod i rym,

(b) ymgynghori ynglŷn â’r drafft hwnnw gyda

(i) awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys cyrff llywodraethol ysgolion a cholegau) sy’n arfer swyddogaethau yng Nghymru mewn perthynas ag addysg,

(ii) Comisiynydd y Gymraeg;

(iii) y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant,

(iv) cyrff sy’n cynrychioli athrawon, prifathrawon a darlithwyr

(v) unrhyw rai eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol,

(c) mor fuan â phosibl ar ôl diwedd yr ymgynghoriad, osod y drafft (gyda pha bynnag addasiadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol yn sgil yr ymgynghoriad) gerbron Senedd Cymru.

(ch) ystyried unrhyw argymhellion a wneir ar y drafft gan Senedd Cymru neu un o’i phwyllgorau.

(d) osod, os dymunant, ddrafft pellach o’r fframwaith statudol, gydag unrhyw addasiadau sy’n ymddangos yn briodol yn sgil yr argymhellion hynny.

(dd) gyhoeddi’r fframwaith statudol, yn unol â drafft a gymeradwywyd gan Senedd Cymru

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r fframwaith statudol o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

(3) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ei bod yn briodol addasu’r fframwaith statudol, rhaid iddynt baratoi a chyhoeddi drafft o’r addasiadau arfaethedig a’i gyhoeddi. Bydd is-adran (1) a (2) yn gymwys i’r drafft hwnnw.

(4) Bydd cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y fframwaith statudol yn cynnwys y fframwaith fel mae’n sefyll o bryd i’w gilydd gan gynnwys unrhyw addasiadau a wnaed yn unol ag is-adran (3).

12 Adroddiadau blynyddol

Rhaid i Weinidogion Cymru, mor fuan â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn academaidd,

(a) baratoi adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn academaidd honno tuag at gyflawni’r nod statudol,

(b) gyhoeddi’r adroddiad hwnnw,

(c) ei osod gerbron Senedd Cymru.

13 Swyddogaethau’r Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant

Mewnosoder yn adran 20(1) o Ddeddf Addysg 2005 (c18)-

“(h) the extent to which those schools, the management of those schools and the exercise by public authorities of their functions in relation to those schools are contributing to the statutory aim set by the Welsh Language Education (Wales) Act 202- and in accordance with such steps as they are required to take under the Welsh Language Education Framework published under that Act.”

14 Diddymu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

(1) Diddymir Rhan 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg).

(2) Rhaid i unrhyw orchymyn a ddaw â’r adran hon i rym (o dan adran 18(1)) gynnwys, yn unol ag adran 18(2), ddarpariaeth drosiannol a fydd yn sicrhau y bydd darpariaethau unrhyw Gynllun Strategol sydd mewn grym yn parhau mewn grym nes bod darpariaeth gyfatebol a fydd yn cael ei chynnwys yn y fframwaith statudol yn weithredol.

15 Trefniadau teithio gan ddysgwyr

(1) Yn adran 3 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mewnosoder:

“(6A) At ddibenion paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, nid yw’r ysgol, yr uned neu’r sefydliad yn addas i’r plentyn, disgybl neu fyfyriwr

(a) os nad yw’r ysgol, uned neu sefydliad yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, naill ai’n gyffredinol neu ar gyfer pwnc penodol, a

(b) os yw’r rhiant neu berson arall sydd â gofal dros y plentyn, disgybl neu fyfyriwr (neu’r disgybl neu fyfyriwr os yw’r disgybl neu fyfyriwr wedi cyrraedd 18 oed) yn dymuno i’r plentyn, disgybl neu fyfyriwr fanteisio ar drefniadau teithio er mwyn medru derbyn addysg mewn ysgol, uned neu sefydliad sy’n darparu addysg, naill ai’n gyffredinol neu ar gyfer pwnc penodol, trwy gyfrwng y Gymraeg.”

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth bennu’r camau y cyfeirir atynt yn adran 5(1)(b), gynnwys y cam o wneud rheoliadau o dan adran 8 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 er mwyn hyrwyddo’r nod statudol trwy sicrhau addysg Gymraeg cyn-ysgol hygyrch,

16 Dehongli

Yn y Ddeddf hon –

(a) mae “awdurdodau cyhoeddus” (“public authorities”) yn cynnwys unrhyw berson neu gorff sy’n arfer swyddogaethau statudol ac yn cynnwys, ymhlith awdurdodau eraill, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chyrff llywodraethol ysgolion a cholegau,

(b) dehonglir “addysg gynradd” (“primary education”), “addysg uwchradd” (“secondary education”), ac “addysg bellach” (“further education”) yn unol â Deddf Addysg 1996

(c) mae i “addysg cyn-ysgol” (“pre-school education”) yr un ystyr â “nursery education” yn Neddf Addysg 1998,

(ch) dehonglir “addysg anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs education”) yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,

(d) dehonglir “addysg uwch” (“higher education”) yn unol â Deddf Diwygio Addysg 1988.

17 Darpariaeth atodol

(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a) unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;

(b) unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(2) Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(3) Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw deddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol neu wedi ei wneud o dan un ohonynt⁠—

(a) Deddf Seneddol,

(b) Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(c) Deddf Senedd Cymru.

(4) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon —

(a) yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(5) Ni chaniateir i offeryn statudol a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf Senedd Cymru gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo gan Senedd Cymru drwy benderfyniad.

(6) Caiff unrhyw offeryn statudol arall a wneir o dan yr adran hon ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

18 Dod i rym

(1) Daw adrannau 14 ac 15(a) i rym ar y diwrnod neu’r diwrnodau a bennir gan Weinidogion Cymru gan orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2) Caiff gorchymyn o dan is-adran (1)—

(a) gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b) pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

(3) Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

19 Enw byr

Enw byr y ddeddf hon yw Deddf Addysg Gymraeg (Cymru) 202-.